#DyddMercherLlesiant

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Rydym yn falch iawn o rannu rhai cyhoeddiadau pwysig ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Hyd yn oed cyn COVID rydyn ni'n gwybod bod llesiant wastad wedi bod yn fater pwysig i fyfyrwyr; dyna pam bod ein strategaeth sy'n llywio gwaith Undeb y Myfyrwyr yn addo y byddwn ni'n rhoi cymorth i chi i fod hapus ac iach.

 

Eisoes eleni rydym wedi:

  • Dechrau cymryd rhan yn rhaglen UMau Students Minds i ddatblygu ein gwaith ar iechyd meddwl.
  • Wedi'i ailffocysu RAG (Codi a Rhoi) fel bod yr arian a godir yn mynd tuag at weithgareddau a phrosiectau i gynorthwyo llesiant.
  • Ymchwilio i effaith COVID, sydd wedi arwain at ddarparu pecynnau ynysu a datblygu gwasanaeth hyfforddiant newydd i fyfyrwyr.
  • Gweithio gyda'r Brifysgol i lunio ei Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant.

Yn ogystal â hyn, rydyn ni bellach yn gallu rhannu nid un, ond tri, phrosiect newydd a gaiff eu lansio yn y flwyddyn newydd…

  • Y cyntaf yw Cronfa Syniadau Llesiant newydd sy'n cynnig hyd at £1,000 i gynorthwyo syniadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar lesiant myfyrwyr. Bydd y syniadau sy’n cael eu dethol yn derbyn cefnogaeth gan staff yr Undeb i ddod â'ch syniadau'n fyw.
  • Yr ail yw sesiynau Paned a Sgwrsio; gan ddechrau 2-3pm dydd Mawrth 19eg Ionawr, mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd eisiau cwrdd â phobl newydd a sgwrsio am ystod o bynciau.
  • Yn olaf, rydym yn cyhoeddi Sesiynau Galw-Heibio Llesiant newydd wythnosol, yn dechrau ddydd Mercher 20fed Ionawr. P'un a ydych chi'n awyddus i ddarganfod sut i gael gafael ar gymorth neu os ydych chi ond angen rhywun i siarad â nhw am sut rydych chi’n teimlo a beth yw'ch opsiynau, a hynny mewn man cyfeillgar a chyfrinachol gydag un o'n cynghorwyr, dyma'r sesiwn i chi.

 

Byddwn yn rhannu mwy am bob un o'r prosiectau newydd hyn yn yr wythnosau i ddod ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ein e-bost wythnosol; neu gallwch gliciwch ar y dolenni uchod i gael mwy o wybodaeth am bob un ohonynt.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576