Er gwaethaf yr hyn sydd wedi bod hyd yma’n flwyddyn anodd ei rhagweld, rydym yn benderfynol o ddal ati i ddarparu digwyddiadau llawn hwyl yn ystod gweddill y flwyddyn academaidd. Roeddem am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel y gallwch chi gymryd rhan!
Sialens Aber |
|
- *NEWYDD* Dyddiad: 5ed - 7fed Chwefror
- Maint y tîm: 3-6 o bobl (aelwydydd yn unig - bydd angen tystiolaeth)
- Pris: £35 y tîm
- Cofrestrwch erbyn y 9am ddydd Llun 18fed Ionawr 2021!
- Mae’r cystadlaethau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol ac maent i'w gweld ar ein gwefan yma
- Yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID, rydym wedi cynllunio i'r digwyddiad fynd rhagddo naill ai'n gyfangwbl rithwir, neu gyfuniad o rithwir a diriaethol.
|
 |
|
|
Superteams |
|
- *NEWYDD* Dyddiad: 26ain - 28ain Chwefror (Menywod) a 12fed - 14eg Mawrth (Dynion)
- *NEWYDD* Adran gymysg: cynhelir y digwyddiad hwn hefyd dros y ddau benwythnos ar gyfer y rhai sy’n byw mewn cartrefi cymysg.
- Maint y tîm: 5 o bobl (aelwydydd yn unig - bydd angen tystiolaeth)
- Cofrestru'n agor: 9am dydd Gwener 29ain Ionawr
- Bydd digwyddiadau'n wahanol i sicrhau ein bod yn dilyn rheolau Covid-19, gan gynnwys: pellhau cymdeithasol, maint grwpiau, dim rhannu offer a chynnal digwyddiadau yn yr awyr agored gymaint â phosibl.
|
 |
|
|
Gwyl y Celfyddydau |
|
- Dyddiad: 1af - 5ed Mawrth
- Rydyn ni am ddod â phobl ynghyd i ddathlu’r celfyddydau, felly rydyn ni'n cynnig cyfle i chi fynegi'ch ochr greadigol trwy arddangos eich gwaith i'r corff myfyrwyr a thu hwnt.
- Rydym yn dal i fod yn y cyfnod cynllunio. Mae gennym weithgor wedi'i sefydlu dan arweiniad eich Swyddog Cyfleoedd, sy'n cynnwys unigolion allweddol o amryw o wahanol gefndiroedd
- Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Wojtek
|
 |
|
|
Varsity |
|
- Digwyddiad undydd - rydym yn ystyried 1af Mai 2021 fel dyddiad posib.
- Mae'n debygol y gofynnir i'r cyfranogwyr ynysu / peidio â chymysgu ag eraill cyn y digwyddiad
- Bydd cyfyngiadau ar nifer y timau (yn dibynnu ar brotocolau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol) a dim gwylwyr
- Byddwn yn trafod lefelau diddordeb myfyrwyr yn Parth Tymor 2 (1af Chwefror, 6pm)
|
 |
|
|
Gwyl Cymdeithasau |
|
- Cyfarfod â Bangor ym mis Ionawr i drafod syniadau
- Ystyried cynnal y digwyddiad yn rhithwir, naill ai ar y dyddiad gwreiddiol (17eg Ebrill) neu symud i'r un dyddiad â Rhyngolgampau Farsiti
- Byddwn yn trafod lefelau diddordeb myfyrwyr yn Parth Tymor 2 (1af Chwefror, 6pm)
|
 |
|
|
Aber 7's |
|
- Ystyried ei symud i Awst 2021, yn dibynnu ar lefel heintio a chyfyngiadau cysylltiedig
- Arhoswn am ddiweddariad yn y flwyddyn newydd.
|
 |
Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a'i ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach i chi pan allwn.
Gyda dymuniad gorau,
Y Tîm Cyfleoedd