Enw: Dafi Jones
Cyflwyniad byr...
Fy enw i yw Dafi a fi ydy Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA eleni. Rwyf wedi graddio o’r brifysgol mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid. Cefais fy ngeni a’n magu ar fferm felly rwy’n mwynhau bod tu allan ac mewn cwmni anifeiliaid. Rwyf hefyd yn mwynhau chwarae rygbi a chefnogi tîm pêl-droed Abertawe.
Rhowch ffaith ddiddordeb neu randwm i ni amdanoch chi eich hun...
Rwyf wedi derbyn llawdriniaeth ar ôl torri fy nhrwyn yn chwarae rygbi.
Dewiswch tri gair sy’n eich disgrifio orau:
Ffraeth, urddasol, Cymro
Eich pryd o fwyd olaf ar y ddaear...beth sy’ ar y fwydlen? A pha 3 pherson enwog fyddech chi’n gwahodd i gael bwyd?
I ddechrau, cregyn gleision, prif blât stêc, pwdin – proffiterols. Gyda Tudur Owen, Connor Roberts a Jeremy Clarkson.
Beth yw eich diddordebau?
Rwy’n mwynhau gwylio Pobol y Cwm a Rownd a Rownd (Welsh soaps)
Pam wnaethoch chi benderfynu i sefyll am y rôl hon?
I wthio am gymaint o gydraddoldeb â phosib i fyfyrwyr Cymraeg ac i barhau i drefnu digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr UMCA
At ba peth rydych chi’n edrych ymlaen ato y mwyaf eleni?
Yr Eisteddfod Rhyng-gol
Beth yw rhai o’r achosion sydd o bwys i chi?
Cydraddoldeb i fyfyrwyr Cymraeg, cefnogaeth i ddioddefwyr o iechyd meddwl a cynnig cefnogaeth yn y Gymraeg, cynnig estyniadau i fyfyrwyr pan maent yn eu haeddu
Eich hoff le yn Aberystwyth i gymdeithasu?
Yr Hen Lew Du
Tasech chi’n gallu bod yn anifail, pa un fyddech chi a pham?
Buwch gan eu bod nhw’n cymeriadau hapus a chariadus
Pa beth, yn eich barn chi, ddylai pawb ei wneud/cael blas arno o leiaf unwaith yn eu hoes? (rhowch enghraifft bersonol os oes eisiau)
Bwydo oen fach – ciwt iawn
Rydych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun...Pa gân sy’n dod lan ar gyfer y daith?
Pen y byd - Bwncath
Rhowch un o’ch hoff lefydd rydych chi wedi ymweld â fe i ni a pham?
Milan – lle prydfferth a hanesyddol, gyda bwyd gwych!