DATHLU 10 MLYNEDD O WOBRAU STAFF A MYFYRWYR UMBER

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yn ystod wythnos #UMAberYnDathlu, rydym yn dathlu 10 mlynedd o'r gwobrau Staff a Myfyrwyr (a elwid gynt yn Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr). Manteisiwyd ar y cyfle i wahodd Swyddogion Addysg a Materion Academaidd o’r gorffennol i edrych yn ôl ar rai o'r cyflawniadau a'r newidiadau mawr sydd wedi digwydd ar draws y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr dros y 10 mlynedd diwethaf.

Fel Sefydliadau Addysg Uwch, mae ein gallu i ddatblygu ac addasu yn gyson i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr addysg a'r profiad gorau wrth astudio yma yn Aberystwyth yn rhywbeth y mae pawb yn falch ohono.

Dyma grynodeb o gyflawniadau'r 10 mlynedd diwethaf o wobrau Staff a Myfyrwyr:

 

2010/11

Bethan Foweraker

Edrychwn yn ôl yn gyntaf ar fis Rhagfyr 2010 pan basiwyd y bleidlais yn Nhy’r Cyffredin i godi’r cap ar ffioedd dysgu i £9,000. Gan wybod yr effaith y byddai hyn yn ei chael, bu Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda'r Brifysgol yn ystod y flwyddyn i ddeall pa ardaloedd astudio y gellid eu gwella a sut y byddai codi £9,000 y flwyddyn yn cael ei ddefnyddio'n briodol ar gyfer gwella profiad myfyrwyr.

Er bod y cynnydd hwn mewn ffioedd dysgu wedi bod yn un o'r newidiadau mwyaf mewn addysg uwch dros y 10 mlynedd diwethaf, mae wedi arwain at ddatblygiadau mawr o ran sut mae'r Undeb a'r Brifysgol yn ymateb i adborth myfyrwyr.

 

2011/12

Jess Leigh

Yn 2011/12 cwblhawyd nifer o brosiectau datblygu gan y Brifysgol, gan gynnwys agor y Ganolfan Ffenomeg yng Ngogerddan a chwblhau adeilad IBERS, sy'n nodedig am ei rinweddau amgylcheddol a'i do gwyrdd.

Yn ogystal, ar ôl ymgyrchu llwyddiannus gan Undeb y Myfyrwyr, agorwyd gofod astudio 24 awr mawr-ei-angen ym Mhlas Laura, oherwydd, er bod hyn yn anodd ei gredu, nid oedd gan bawb fynediad i’r rhyngrwyd yn eu tai yn y dref! 

Wrth gwrs, 2011/12 hefyd oedd blwyddyn gyntaf y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, a gynhaliwyd ar 24ain Mai 2012. Ysbrydolwyd y gwobrau gan ddigwyddiad llwyddiannus ym Mhrifysgol Caeredin, ac fe'u haddaswyd gan UMAber i ddathlu rhagoriaeth addysgu, staff cynorthwyol a chynrychiolwyr myfyrwyr!  Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae'n hyfryd gweld bod hyn bellach yn ddigwyddiad blynyddol, ac rydym yn falch bod y brifysgol yn parhau i ddathlu dysgu ac addysgu.

 

2012/13

Jess Leigh

Yn ystod y flwyddyn hon, derbyniodd Undeb y Myfyrwyr ganmoliaeth gan Senedd y DU yn dilyn cyhoeddi Adroddiad ar Arolwg Tai Myfyrwyr, a oedd â’r nod o godi safon tai myfyrwyr yn Aberystwyth, ac addysgu myfyrwyr ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau fel tenantiaid. Mae pwysigrwydd y gwaith a'r arolwg hwn ei fod yn rhywbeth sy'n dal i ddigwydd yn rheolaidd.

Yn y Brifysgol, sicrhawyd cyfleoedd newydd i fyfyrwyr astudio trwy'r Gymraeg, gyda phedair swydd academaidd Gymraeg arall yn cael eu sefydlu yn sgil y berthynas waith newydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hefyd llwyddodd y Brifysgol i sicrhau cyllid i gychwyn cystadleuaeth fusnes InvEnterPrize i gefnogi a buddsoddi mewn myfyrwyr sydd â syniad am gynnyrch neu wasanaeth newydd y gellid ei droi’n fenter fusnes lwyddiannus; mae'n gystadleuaeth sy’n dal i ddarparu cyfleoedd buddsoddi heddiw!

 

2013/14

Grace Burton

Yn dilyn llwyddiant adroddiad arolwg tai Undeb y Myfyrwyr, cyflwynwyd deiseb i Gynulliad Cymru a arweiniodd at ymrwymiad i gynnal ymgynghoriad llawn ynghylch llety yn y sector preifat yng Nghymru. Arweiniodd yr ymgyrch hefyd at ddatblygu 'Contract Model' gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer landlordiaid a myfyrwyr. O ganlyniad i'r cyflawniadau hyn, ym mis Mawrth 2014 enillodd Undeb y Myfyrwyr wobr Ymgyrch y Flwyddyn a Thîm Swyddogion y Flwyddyn fel rhan o Wobrau UCM Cymru.

Yn gynharach yn y flwyddyn, cymerwyd camau cadarnhaol tuag at fynd i'r afael â'r stigma a'r camwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, gyda'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr y cyntaf yng Nghymru i arwyddo'r addewid 'Amser i Newid'. 

Bydd y flwyddyn hon hefyd yn cael ei chofio am stormydd a ysgubodd lan y môr gan achosi difrod sylweddol i'r promenâd. Oherwydd pryderon ynghylch diogelwch, symudwyd y rhai oedd yn byw mewn llety oedd yn eiddo i’r Brifysgol ger glan y môr i fyny i gampws Penglais trwy gydol y tywydd gwael. Unwaith i'r stormydd dawelu, roedd myfyrwyr yn awyddus i helpu ag ymdrechion i lanhau’r llanast yn sgil y storm.

 

2014/15

Grace Burton

Yn dilyn cynlluniau i gau Pantycelyn yn 2013 ac ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol yr adeilad, yn 2014/15 cynhaliodd UMCA amryw o ymgyrchoedd a phrotestiadau. Ar ôl trafodaethau hir rhwng UMCA, Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, ar 22ain Mehefin 2015 cymeradwyodd Cyngor y Brifysgol o’r diwedd fwriad y Brifysgol i adnewyddu'r neuadd o fewn y pedair blynedd nesaf - llwyddiant ysgubol i fyfyrwyr Cymraeg a diwylliant Cymru.

Dechreuwyd ymgyrch gan Undeb y Myfyrwyr hefyd a oedd â’r nod o sicrhau bod myfyrwyr ôl-raddedig oedd â chyfrifoldebau addysgu yn cael eu hystyried yn weithwyr ac yn cael eu trin yn deg fel aelodau staff, tra’u bod nhw hefyd yn fyfyrwyr.

Roedd achos pellach i ddathlu yn ystod y flwyddyn hon pan dderbyniodd Undeb y Myfyrwyr 1,113 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, record sydd eto i gael ei churo!

 

2015/16

Lauren Marks

Yn 2015/16, ysgogwyd sawl newid sylweddol gan Undeb y Myfyrwyr a oedd o fudd i'n myfyrwyr ôl-raddedig yn benodol. Ym mis Rhagfyr 2015, llofnodwyd y Siarter Cyflogaeth Ôl-raddedig gan yr UM a'r Brifysgol, sy'n sicrhau cyfraddau cyflog teg a gwell cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n addysgu. Yn ogystal, fe lwyddom i lobïo'r Brifysgol i gydnabod Myfyrwyr Ôl-raddedig oedd wrthi’n ysgrifennu eu traethodau ar gyfer cael eu heithrio rhag talu treth y cyngor. Roedd hyn yn rhywbeth roeddem yn arbennig o falch ohono, gan ei fod wedi sicrhau manteision hir-dymor i fyfyrwyr ôl-raddedig, ac oherwydd ein bod wedi llwyddo i herio anghysondebau cyfreithiol i gyflawni'r newid polisi sylweddol hwn.

Hefyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon, fe wnaeth myfyrwyr elwa o gael y llyfrgell ar agor am 24 awr y dydd yn ystod cyfnod yr arholiadau am y tro cyntaf.

Yn olaf, fe wnaethon ni greu ymgyrch ‘Sanau Stefan’ yn dilyn colled drasig yng nghymuned y myfyrwyr. Mae'r ymgyrch hon wedi parhau i godi miloedd o bunnoedd at achosion iechyd meddwl, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus myfyrwyr Aberystwyth i gynnig cefnogaeth i'r rhai a allai gael eu heffeithio gan anawsterau iechyd meddwl.

 

2016/17

Ryan Myles

Yn dilyn llwyddiant ymestyn oriau’r llyfrgell, eleni oedd y tro cyntaf i Lyfrgell Hugh Owen fod ar agor 24/7 yn ystod y tymor. Hon hefyd oedd y flwyddyn pan agorwyd cyfleusterau campfa'r Brifysgol ar eu newydd wedd ar ôl i fuddsoddiad o £250,000, yn ogystal â buddsoddiad ychwanegol gael ei wneud yn Undeb y Myfyrwyr i gynorthwyo prosiectau gwirfoddoli, Cynrychiolwyr Academaidd ac Ôl-raddedigion.

Roedd gan Undeb y Myfyrwyr hefyd nifer o resymau i ddathlu, gan gyfuno ein digwyddiadau Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau / Gwobrau Staff a Myfyrwyr yn un wythnos UMAber yn Dathlu, gyda'r nod o gydnabod myfyrwyr a staff ar draws ein gweithgareddau.

Fe wnaethon ni hefyd ennill Gwobr Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn UCM Cymru!

 

2017/18

Emma Beenham

Cyflawniad mwyaf y flwyddyn 2017/18 heb amheuaeth oedd y Brifysgol yn derbyn lefel Aur y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, sef sgôr uchaf y Fframwaith Canlyniadau Myfyrwyr o ran Rhagoriaeth Addysgu ar gyfer cyflwyno addysgu, dysgu a deilliannau rhagorol i fyfyrwyr yn gyson.

Yn ystod y flwyddyn academaidd gweithiodd Undeb y Myfyrwyr yn agos gyda'r Brifysgol i ddatblygu sawl polisi, gan gynnwys cwblhau archwiliad llawn o’r broses arholiadau; y mae rhan ohono bellach yn sicrhau o leiaf 24 awr rhwng arholiadau i'n holl fyfyrwyr.

Aethom ati hefyd i ddiweddaru Adran Cynrychiolaeth Myfyrwyr y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, sydd wedi gwneud newidiadau cadarnhaol, gan wella dealltwriaeth o rôl y Cynrychiolydd Academaidd, sut maen nhw’n cael eu hethol; hefyd ymwybyddiaeth a deilliannau Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr.

Yn olaf, enillodd Undeb y Myfyrwyr ddwy wobr ledled y DU yn ystod y flwyddyn hon, sef Gwobr Pobl UCM a Gwobr Democratiaeth UCM!

 

2018/19

Megan Hatfield

Ar ddechrau'r Flwyddyn Academaidd hon, enillodd y Brifysgol fwy o glod pan dderbyniodd y wobr am y Brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr o ran Boddhad Myfyrwyr fel rhan o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Hefyd dyfarnwyd gwobr Prifysgol y Flwyddyn y Times a’r Sunday Times am Ansawdd Addysgu i Brifysgol Aberystwyth. Wrth wneud hynny, daeth y Brifysgol y sefydliad AU cyntaf i dderbyn y wobr ddwy flynedd yn olynol!

Roedd gwaith caled Undeb y Myfyrwyr i gynyddu ymgysylltiad a nifer y pleidleiswyr fel rhan o Etholiadau Swyddogion y Gwanwyn yn llwyddiant mawr y flwyddyn hon, gyda'r nifer uchaf erioed o bleidleiswyr, sef 37%, un o'r uchaf yn y DU.

Yn ogystal, yn dilyn nifer o flynyddoedd o drawsnewid a datblygu ar draws 12 maes gwaith allweddol, dyfarnwyd Gwobr Undeb Myfyrwyr o Ansawdd UCM i Undeb y Myfyrwyr.

 

2019/20

Chloe Wilkinson-Silk

Yn 2019/20 cymerodd Prifysgol Aberystwyth gamau sylweddol tuag at ddod yn ddarparydd addysg mwy moesegol. Gyda myfyrwyr yn ysgogi’r datblygiadau, mabwysiadodd y Brifysgol bolisi buddsoddiadau moesegol newydd, gan symud eu buddsoddiadau i ffwrdd o gynhyrchu tanwydd ffosil. Gyda hyn, fe wnaethant hefyd ymuno â mudiadau ledled y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan addo cyflawni carbon sero net erbyn 2030. Yn ogystal â hyn, llwyddodd myfyrwyr i sicrhau polisi ar draws y sefydliad ar argraffu traethodau hir, a chyflwyniadau digidol, gan leihau ein defnydd o bapur, a chaniatáu i bob myfyriwr gael sawl cyfle i gyflwyno gwaith, ac yn yr un modd adroddiadau, cyn eu terfyn amser ar gyfer Turnitin.

Yn olaf, yn 2020 hefyd derbyniodd Prifysgol Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr gydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth, gyda'r Brifysgol yn cael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, a'r UM yn derbyn Gwobr addysg UCM Cymru am yr ymgyrch academaidd orau yng Nghymru.

 

2020/21

Chloe Wilkinson-Silk

Felly dyma ni, 2020/21 a diwedd ein Cyfnod o 10 Mlynedd!

Dechreuodd y flwyddyn academaidd hon gydag ailagor mawr disgwyliedig Pantycelyn, gan groesawu carfan newydd o fyfyrwyr Cymraeg i'r llety hanesyddol hwn sydd newydd ei adnewyddu. Gyda hyn, cawsom hefyd gyfle i groesawu pob myfyriwr yn ôl i'r campws am y tro cyntaf ers mis Mawrth y flwyddyn academaidd flaenorol oherwydd effaith y pandemig byd-eang.

Ni allwn edrych ar 2020/21 heb gydnabod effaith y pandemig byd-eang, ac yn hanfodol ymdrech ar y cyd myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach wrth ymateb i'r heriau a ddaeth yn ei sgil. Yn ystod y 18 mis diwethaf, gwelwyd yr UM, y Brifysgol a phob sefydliad dan haul yn ymateb, yn addasu ac yn gweithio mewn ffyrdd newydd na allem erioed fod wedi'u dychmygu.

Ac yn olaf, ar ôl misoedd o hyfforddiant a datblygiad mewnol, derbyniodd UMAber Wobr Hyrwyddwr Amrywioldeb Chwarae Teg, gan gydnabod ein hymroddiad i gynhwysiant fel sefydliad.


Hoffem ddiolch i'r holl swyddogion blaenorol am eu cyfranogiad yn y gwobrau eleni i ddathlu 10 mlynedd o wobrau addysgu, yn ogystal â'r rôl allweddol y maent wedi'i chwarae wrth siapio'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i fod yr hyn y maent heddiw.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576