Bob blwyddyn mae cymdeithasau ffantastig newydd yn ymuno â ni fel rhan o’r gymuned #TîmAber. Mae rhai yn newydd sbon; a rhai yn ffurf newydd ar grwpiau cynt wedi’u hailddychmygu. Mae gan bob un dîm angerddol o aelodau pwyllgor newydd sy’n awyddus i’ch croesawu ac i chi gymryd rhan yn yr amrywiaeth o bethau sydd ar gael. Nid yw eleni yn eithriad, gadewch i ni gyflwyno rhai o’n cymdeithasau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd o’n blaenau...
Bob blwyddyn mae cymdeithasau ffantastig newydd yn ymuno â ni fel rhan o’r gymuned #TîmAber. Mae rhai yn newydd sbon; a rhai yn ffurf newydd ar grwpiau cynt wedi’u hailddychmygu. Mae gan bob un dîm angerddol o aelodau pwyllgor newydd sy’n awyddus i’ch croesawu ac i chi gymryd rhan yn yr amrywiaeth o bethau sydd ar gael. Nid yw eleni yn eithriad, gadewch i ni gyflwyno rhai o’n cymdeithasau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd o’n blaenau...
Rhyddfrydwyr Prifysgol Aberystwyth
Mae Rhyddfrydwyr Prifysgol Aberystwyth yn helpu i ymgyrchu dros ddyfodol teg a gwell i Gymru a’r Deyrnas Unedig! Rydym yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, digwyddiadau gyda siaradwyr, dadleuon, yn ogystal â chanfasio ar draws y sir. Mae croeso i bawb – a chofiwch, mae aelodaeth yn rhad ac am ddim! Ein digwyddiad cyntaf fydd ein picnic haf ddydd Iau’r 30ain Medi am 12:30 ar y campws (What3Words ///income.access.honestly). Gwelwn ni chi yno!
|
|
CARPE DIEM
Mae cymdeithas CARPE DIEM ('bachwch ar y cyfle'), a ysbrydolwyd gan y ffilm 'Dead Poets Society', yn lle diogel a chroesawgar i unrhyw fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth fynegi eu hunain trwy ddarlleniadau barddonol thematig ar y traeth ac o amgylch adfeilion y castell. Gyda'n gilydd byddwn yn rhannu ein cariad at ein cyfansoddiadau ein hunain neu waith bardd arall yng ngolau fflachlamp neu o amgylch coelcerth. Yn ogystal â chyfarfodydd yn yr awyr agored, byddwn yn annog aelodau'r gymdeithas i gymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu barddoniaeth ar-lein.
|
|
Centre Aberystwyth
Cymdeithas ymgyrchu yw Centre Aberystwyth sy'n ceisio ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth ynghylch materion sy'n effeithio ar fyfyrwyr ar draws y campws. Maent yn grwp o fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, sydd â'r nod o wneud Aberystwyth a'r Brifysgol yn lle gwell. Maen nhw'n cynnal ymgyrchoedd, ymchwilio i faterion, lobïo cyrff, cydweithredu, trefnu a chynnal digwyddiadau cymdeithasol. Cyfranogwch gymaint neu gyn lleied ag y mynnwch; mae croeso i bawb ddilyn eu diddordebau eu hunain.
|
|
Cymdeithas Dug Caeredin (DofE Soc)
Nod cymdeithas DofE yw rhoi cyfle a chymorth i fyfyrwyr ddechrau a/neu gwblhau unrhyw wobr DofE. P'un a wnaethoch chi gyrraedd lefel efydd yn yr ysgol ac yn difaru na wnaethoch chi ddal ati a chyrraedd aur, angen cwblhau tasg breswyl neu alldaith, neu does gennych chi ddim syniad beth yw gwobrau DofE a dim ond eisiau dod draw i ofyn cwestiynau, bydd croeso mawr i chi. Rydym yn bwriadu cynnal ambell daith, yn dibynnu ar anghenion aelodau'r clwb, yn ogystal â thasg breswyl ar gyfer pobl sy'n dymuno cwblhau'r wobr aur. Byddwn hefyd yn helpu i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer cwblhau sgiliau gwirfoddoli ac agweddau corfforol y wobr. Bob nos Fawrth bydd cyfarfod byr ac yna sesiwn gymdeithasol, ac ar ddiwedd y flwyddyn byddwn yn mynd allan am bryd o fwyd i ddathlu pawb sydd wedi ennill (neu sydd ymhell ar y ffordd i ennill) gwobr.
|
Cymdeithas y Ffeministiaid
Mae Cymdeithas Ffeministiaid Prifysgol Aberystwyth yn croesawu pob myfyriwr i ymuno â mudiad sydd â’r nod o sicrhau ymwybyddiaeth o'r anghydraddoldebau y mae pobl sy'n hunaniaethu fel menywod yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Rydym yn gobeithio cynnal sawl ymgyrch yn y flwyddyn sydd i ddod ynghylch diogelwch ar y campws a thlodi’r mislif, ymysg amryw o achosion eraill yr ydym yn gobeithio eu cefnogi. I ni, mae ffeministiaeth yn y bôn yn ymwneud â chydraddoldeb ym mhob ystyr o'r gair; rhyw, hunaniaeth a rhywedd. Mae cyflawni hyn, hyd yn oed mewn ffordd fach, yn hanfodol i fywyd a dilyniant myfyrwyr yn yr 21ain ganrif. Nod y gymdeithas hon yw grymuso a helpu unigolion i gofleidio eu hunaniaeth, rhywbeth y byddai unrhyw un yn cytuno sydd ei angen mewn unrhyw leoliad, ond yn enwedig pan fyddwch chi’n mynd allan i’r byd am y tro cyntaf. Bydd rhai ohonoch wedi ein clywed yn siarad yn yr wylnos ym mis Mawrth ac efallai y bydd eraill wedi gweld ein cyfraniad i Mouthy Magazine, ond rydym yn benderfynol o gyflawni mwy mewn sectorau eraill i gynorthwyo'r frwydr hir dros gydraddoldeb. Edrychwn ymlaen at gwrdd ag unrhyw aelodau newydd!
|
|
Cymdeithas Beiciau Modur
Nod y Gymdeithas Beiciau Modur yw annog beicwyr newydd i ymgymryd â'r hobi yn ogystal â magu hyder y beicwyr presennol. Cyflawnir hyn trwy sawl gweithgaredd grwp fel mynd ar daith gyda’n gilydd, gweithdai cynnal-a-chadw a digwyddiadau cymdeithasol. Byddwn yn mynd ar daith gyda’n gilydd bob yn ail fis, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddod i adnabod ardal Ceredigion, gan wella eu sgiliau gyrru beic-modur hefyd. Bydd digwyddiad cymdeithasol yn cael ei gynnal bob nos Fawrth, lle mae croeso i unrhyw un ddod draw. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys barbeciw ar y traeth, nosweithiau ffilm, ac ymweliad â sawl tafarn
|
|
Cymdeithas yr Adaregwyr
Mae Cymdeithas Adareg PA (Birdsoc) ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y byd naturiol, yn benodol adar a gwylio adar. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob gallu, o ddechreuwr i arbenigwr ac o bob cwrs (o swoleg i hanes!). Rydym yn bwriadu cynnal teithiau cerdded hwyliog yn ardal Aberystwyth a Cheredigion, gan wneud y mwyaf o'r byd natur hyfryd sydd gennym ar garreg ein drws (gallwch weld haid o ddrudwy ger y pier, Tan-y-Bwlch, traeth y De a thraeth y Gogledd, a bae Clarach). Ar ddiwrnodau hirach allan o Aber, byddwn yn treulio amser ar draethau Ynyslas a’r Borth, a Chors Fochno (sy’n dda ar gyfer amrywiaeth o adar arfordirol, rhydwyr, teloriaid a mwy), RSPB Ynys-hir (yn arbennig o dda ar gyfer y gwybedwr brith), Prosiect Gweilch Dyfi (GWEILCH), Cei Newydd (ar gyfer carfilod yn ystod misoedd yr haf, gydag ambell i aderyn pâl yn ymweld) a mwy! Trwy gydol y flwyddyn rydym hefyd yn gobeithio cydweithredu â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth i helpu mewn gwarchodfeydd lleol o amgylch Ceredigion. Gwelwn ni chi fis Medi!
|
|
Cymdeithas Môr-ladron
Nod y Gymdeithas Môr-ladron yw dod â phawb sy’n ymddiddori mewn môr-ladron ynghyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau ar thema môr-ladron. Mae digwyddiadau o'r fath yn cynnwys nosweithiau ffilm, teithiau tafarn, helfeydd trysor, ac ymweliadau â llongau ac amgueddfeydd. Cyflawnir hyn i gyd mewn amgylchedd hwyliog, diogel a rhydd o feirniadaeth, lle gall unrhyw un ddysgu am fôr-ladron a gwisgo i fyny. Bydd ein teithiau tafarn yn cael eu cynnal bob pythefnos ar nos Sadwrn, a chynhelir noson ffilm, helfa drysor, neu ymweliad ag amgueddfa unwaith y mis. Gwahoddir pawb i ymuno! |
|
Awydd cael gwybod mwy?
Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am unrhyw un o'n clybiau chwaraeon neu gymdeithasau trwy fynd i'w tudalen ar wefan yr UM: Clybiau Chwaraeon l Cymdeithasau
Gwell fyth, dewch draw i'n Ffair y Glas flynyddol! Bydd gennym gynrychiolwyr o ystod eang o'n grwpiau myfyrwyr sy'n awyddus i ddweud mwy wrthych am yr hyn y maen nhw’n ei wneud.
Ydych chi am gymryd rhan?
Gallwch gael aelodaeth ar gyfer unrhyw un o'n clybiau chwaraeon neu gymdeithasau trwy wefan yr UM; mae pob grwp yn gosod eu ffi aelodaeth eu hunain, felly ewch i’w tudalen unigol am ragor o fanylion.
I fod yn aelod o glwb chwaraeon neu gymdeithas, bydd angen i chi gael gafael ar Yswiriant Tîm Aber yn gyntaf. Ffi flynyddol unwaith-ac-am-byth yw hon o £4 sy'n eich darparu ag yswiriant personol ar gyfer unrhyw weithgaredd yr UM. Unwaith y byddwch chi wedi cael gafael ar yswiriant rydych chi’n gallu cymryd rhan yng ngweithgareddau cynifer o glybiau a chymdeithasau ag y mynnwch.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cychwyn eich cymdeithas eich hun neu fabwysiadu un o'n cymdeithasau gwag?
Ewch i’n tudalen Dechrau Cymdeithas Newydd!
|