Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Sabina O'Donoghue (Ysgrifennydd Cymdeithas Gwenyn 19-20)

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?
Fi yw'r Ysgrifennydd Cymdeithasol Cymdeithas Gadwraeth y Gwenyn. Fy mhrif swyddogaeth yw trefnu digwyddiadau cymdeithasol sy'n rhoi mwynhad i'r holl aelodau, sydd hefyd yn gynhwysol, yn ogystal â threfnu digwyddiadau hwyliog eraill.

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?
Roedd ymuno â Chymdeithas y Gwenyn yn rhan mor enfawr o fy mlwyddyn gyntaf, felly dod yn rhan o'r pwyllgor oedd fy ffordd i o roi yn ôl i'r gymdeithas. Rwy'n berson sy’n gyfforddus ymysg pobl, felly roedd rôl fel ysgrifennydd cymdeithasol yn ymddangos fel yr un iawn i mi.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?
Mae'n braf gweld pobl yn mwynhau'r digwyddiadau cymdeithasol rydyn ni wedi’u cynllunio, ac mae'n deimlad braf pan fydd yr aelodau’n dweud pethau canmoliaethus am y digwyddiadau cymdeithasol rydyn ni wedi gwneud cryn lawer o ymdrech i'w trefnu. Y peth pwysicaf yw sicrhau bod pobl yn hapus ac yn cael hwyl, sydd mor hyfryd i'w weld i unrhyw aelod o'r pwyllgor.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?
Mae ceisio cydbwyso gwaith prifysgol yn ogystal â dyletswyddau fel aelod o’r pwyllgor yn gallu bod yn heriol weithiau. Mae'n bwysig cymryd cam yn ôl os oes angen i chi ganolbwyntio arnoch chi'ch hun, sy’n gallu ymddangos yn eithaf anodd ei wneud. Dysgais hefyd yn eithaf cynnar yn y flwyddyn ei bod yn amhosibl gwneud pawb yn hapus; allwch chi ond gwneud eich gorau. Weithiau gall gwneud penderfyniadau fod yn anodd, ond dyna pryd y byddwch chi'n edrych at weddill y pwyllgor am help. 

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?
Mae fy sgiliau trefnu a rheoli amser wedi gwella yn bendant; mae llawer mwy o gynllunio yn mynd i mewn i ddigwyddiadau cymdeithasol nag yr oeddwn i wedi’i ragweld. Mae gwaith tîm ac arweinyddiaeth hefyd yn rhan enfawr o fod ar bwyllgor, ynghyd â goruchwylio grwpiau mawr o bobl. Maen nhw’n sgiliau mor bwysig ar gyfer unrhyw swydd a allai fod gennych yn y dyfodol.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?
Mae bod yn aelod o bwyllgor yn ymrwymiad mawr heb amheuaeth, felly gwnewch yn siwr eich bod yn cyfathrebu â gweddill y pwyllgor os oes angen help arnoch chi gyda'ch llwyth gwaith/cyfrifoldebau. Sefwch yn gadarn dros syniadau a phethau rydych chi'n credu ynddynt bob amser. Y rhan bwysicaf o fod ar bwyllgor yw cyfathrebu; peidiwch â bod ofn gofyn os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth.


Gallwch ddarganfod mwy am Gymdeithas Cadwraeth y Gwenyn yma: Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gyfranogi yng ngweithgareddau cymdeithasau neu fod ar y pwyllgor, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (cyfleoeddum@aber.ac.uk).

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576