Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Rachel Barwise

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Rwyf wedi bod ar bwyllgor Cymdeithas Ddrama a Theatr The Nomadic Players am y ddwy flynedd ddiwethaf; roeddwn yn Swyddog Lles, a bellach yn Is-Lywydd.

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Yn y bôn, mi wnes i faglu ar draws y cyfle i ddod yn Swyddog Lles ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, a gan fy mod wedi mwynhau’r profiad gymaint, penderfynais sefyll am rôl Is-Lywydd. Roeddwn i'n teimlo bod fy sgiliau'n cyfateb i'r hyn oedd yn ddelfrydol ar gyfer y ddwy rôl, ac o siarad ag eraill yn y gymdeithas, fe wnaethant fy annog i fynd amdani. Roeddwn i wrth fy modd â fy mlwyddyn gyntaf fel aelod, ac roeddwn i eisiau dangos fy ngwerthfawrogiad trwy fynd ati i wthio’r gymdeithas yn ei blaen!

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Gwneud ffrindiau da gyda phobl anhygoel sydd â'r un diddordebau â chi.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Pan oeddwn i’n Swyddog Lles, fe es trwy argyfwng teuluol byr, ac roeddwn yn teimlo bod angen i mi gamu i lawr dros dro am wythnos, ond roedd y rhwydwaith cymorth yng ngweddill y pwyllgor yn aruthrol ac fe wnaethon nhw gyflenwi fy rôl ar fy rhan. Eleni fel Is-Lywydd, mae wedi bod yn heriol wrth gwrs, oherwydd dydyn ni ddim wedi gallu llwyfannu'r hyn yr oeddem wedi ei ddymuno, ac mae hynny wedi bod yn ddigalon, ond rydym wedi dal ati fel grwp i weithio drwyddo. Mae meddylfryd tîm y pwyllgor yn wych!

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Yn bendant! Mae wedi dysgu sgiliau hanfodol i mi o ran cyfathrebu a rheoli amser - ac mae'n amlwg fod hyn wedi gweithio oherwydd fi yw'r Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr nesaf

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Peidiwch â phoeni'n ormodol! Os ydych chi'n ystyried sefyll am rôl ar bwyllgor, gwnewch hynny! Bydd cymorth ar gael ar eich cyfer chi, a byddwch yn sicr o fwynhau eich hun, er gwaethaf y pandemig! Os ydych chi'n ansicr, siaradwch ag aelod cyfredol o bwyllgor neu rywun yn y Tîm Cyfleoedd. Rydyn ni gyda’n gilydd yn hyn o beth.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576