Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?
Rwyf wedi bod yn rhan o bwyllgor Cymdeithas Anifeiliaid a Milfeddygaeth Aberystwyth (AAVS) fel Cydlynydd Digwyddiadau a Chodi Arian ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21.
Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?
Roedd sawl rheswm, ond y prif un yn bendant oedd 'datblygu potensial ac ehangu dylanwad/cyrhaeddiad Fe wnes i fwynhau bod yn aelod gweithgar o'r gymdeithas yn fy 2il flwyddyn, gan fod hyn wedi rhoi cyfle i ni gwrdd â llawer o bobl newydd yn y diwydiant, ac roeddwn yn credu y byddwn mewn sefyllfa dda i barhau i drefnu digwyddiadau o'r fath.
Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?
Mae’n wych gweld y gwaith rydw i wedi'i gyflawni’n cael ei fwynhau a'i werthfawrogi gan aelodau'r gymdeithas.
Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?
Gyda’r sefyllfa o ran Covid, nid yw wedi bod yn hawdd cynnal cymhelliant, nac ysgogi aelodau i barhau i ymgysylltu â’r gymdeithas heb eu bod yn gallu cwrdd wyneb-yn-wyneb.
Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?
Yn bendant! Mae wedi datblygu fy sgiliau rhwydweithio a siarad cyhoeddus, ac yn sicr wedi ehangu fy ngwybodaeth ynghylch y pwnc.
Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?
Byddwch yn gwbl ymwybodol o'r rôl rydych chi'n ymgymryd â hi, gan wneud yn sicr eich bod chi'n gallu ei chydbwyso ochr-yn-ochr â'ch astudiaethau, yn enwedig yn y 3edd flwyddyn, a thu hwnt, pan fydd eich llwyth gwaith yn cynyddu..
Sefyll |
Pleidleisio |
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill |
Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill |