Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?
Fi yw Llywydd y Cantorion Madrigal oes Elisabeth
Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?
Ymunais â'r côr yn fy ail flwyddyn ac roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi dod o hyd i gymdeithas roeddwn i wir yn perthyn iddi, felly roeddwn i eisiau cyfrannu at y gymdeithas fel aelod o'r pwyllgor. Cefais fy annog gan rai o fy nghyd-aelodau o’r côr i sefyll at gyfer rôl Llywydd, a dechreuais feddwl am syniadau yr hoffwn i eu cyflawni fel Llywydd, ac roeddwn i'n teimlo y gallwn i wir wneud gwahaniaeth yn y rôl.
Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?
Rwyf wedi mwynhau'r cyfrifoldeb o fod yn Llywydd, gan sicrhau bod ein holl aelodau'n mwynhau eu hamser yn y côr. Rwyf wedi gallu gweithredu fy syniadau fy hun, gan gyfrannu at hanes cyfoethog y gymdeithas.
Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?
Wrth reswm, mae’r pandemig COVID-19 wedi tarfu’n arw ar ein gweithgareddau; nid oedd yn bosib dod at ein gilydd i ganu, ac nid yw'n gweithio cystal ar-lein. Fel pwyllgor, rydyn ni wedi gorfod llunio strategaeth newydd i gadw'r côr i fynd. Roeddwn hefyd yn ei chael hi'n her cydbwyso holl syniadau a safbwyntiau'r pwyllgor.
Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?
Yn bendant! Rwyf wedi dysgu sgiliau arweinyddiaeth a threfnu gwerthfawr. Fel Llywydd, bu’n rhaid i mi arwain tîm o bobl, a oedd yn brofiad newydd i mi, gwneud penderfyniadau gweithredol a sicrhau bod barn pawb yn cael ei chlywed. Rwyf wedi trefnu ymholiadau allanol a digwyddiadau, yn ogystal gweinyddu’r gymdeithas yn gyffredinol, sydd wedi bod o fudd o ran datblygu fy sgiliau cyfathrebu.
Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?
Byddwch yn rhagweithiol. Os cewch chi gyfle neu os oes gennych chi syniad, gwnewch y gorau o hynny. Dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth a gosod eich stamp ar y gymdeithas. Peidiwch â gadael i unrhyw beth eich dal yn ôl!
Sefyll |
Pleidleisio |
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill |
Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill |