Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Aline Bruck

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

  • Llywydd y Gymdeithas Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (ECWS)
  • Swyddog Llesiant y Gymdeithas Addysg Eco
  • Swyddog Llesiant y Gymdeithas KPOP

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Roedd sawl rheswm, ond y prif un yn bendant oedd 'datblygu potensial ac ehangu dylanwad/cyrhaeddiad y gymdeithas benodol hon'.

Fel glasfyfyriwr fe wnes i sefyll am rôl ar bwyllgor, ond chefais i mo fy ethol, a wnaeth fy ngwneud yn eithaf amheus ynghylch y syniad o sefyll am unrhyw rôl byth eto (hefyd wrth gwrs, y ffaith na dderbyniais i lawer o bleidleisiau.) Ond yna fel myfyriwr trydedd flwyddyn meddyliais: ‘Gyfaill, mae gwir angen i ti ddod dros yr un methiant bach hwn.’ A chafwyd llwyddiant. Dyma ni.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

  • Gallaf drefnu digwyddiadau mawr fel 'Areithiau Awduron’ eleni, gyda thîm sy’n fy nghefnogi! (ECWS)
  • Y foment mae'r holl waith caled yn talu ar ei ganfed; mewn geiriau eraill pan fydd hyd yn oed aelodau mwyaf swil eich cymdeithas yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn fodlon chwarae rhan fwy blaenllaw ac yn hapus â'r digwyddiadau cymdeithasol rydych chi wedi’u trefnu!  (EcoEd)
  • Y foment y daeth ein pwyllgor yn fwy na chriw o ddieithriaid a geisiodd gadw cymdeithas yn fyw yn ystod pandemig. (Pob un ohonynt)

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

  • Pan wnaeth ein his-lywydd a’n llywydd ‘ymadael’ ar ddiwedd y tymor cyntaf. (EcoEd)
  • Pan drodd ein holl obeithion am gystadlaethau a digwyddiadau cymdeithasol wyneb-yn-wyneb yn llwch oherwydd y cyfyngiadau newydd. (KPOP)
  • Pan wnaethon ni redeg allan o syniadau (a chwestiynau) ar gyfer ein cwisiau tafarn ar-lein… (ECWS)

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Yn sicr. Rydych chi'n dysgu llawer o bethau cynnil, a phethau ddim mor gynnil fel:

  • Agwedd pobl eraill at waith. (A'ch agwedd EICH HUN.)
  • Rheoli amser a hyblygrwydd. (neu ddiffyg y rhain, haha)
  • Cyfathrebu! (Yn llythrennol yr A ac O…)
  • Cymaint. O. E-byst. A. Ffurflenni Wufoo. (Ond yn y pen draw, rydych chi'n dod i arfer â hyn!)
  • Gosod blaenoriaethau: weithiau mae angen i chi ddweud na a/neu gymryd hoe.
  • Gonestrwydd: mae rhai syniadau'n edrych yn dda ar bapur, ond dydyn nhw ddim yn gweithio mewn gwirionedd.
  • Rydych chi'n dysgu'n gyflym pam mae rhai pwyllgorau / cymdeithasau a chlybiau'n gweithio'n well nag eraill
  • Gwrthdaro: weithiau mae angen i chi ddweud wrth bobl nad ydyn nhw'n gwneud eu gwaith yn iawn. Weithiau bydd pobl yn dweud wrthoch CHI nad ydych chi’n tynnu eich pwysau. Ac mae hynny'n iawn cyn belled nad yw'r naill berson na'r llall yn ei gymryd yn rhy ddifrifol / bersonol. (wedi'r cyfan mae hyn i gyd yn wirfoddol!)    

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Mae eich amser ar y pwyllgor yn gyfyngedig, felly gwnewch y gorau ohono a mynnwch drefn ar bethau dros yr haf! Mae’n hanfodol bwysig bod yn drefnus, yn enwedig yn ystod misoedd pan fydd gennych chi lwyth o arholiadau ac aseiniadau...

Os yw popeth yn ymddangos fel pe bai’n 'mynd o chwith', efallai y bydd yn amser da i alw'ch cyd-aelodau o’r pwyllgor ynghyd a threfnu ymyriad. Nid yw byth yn rhy gynnar i fynd i'r afael â drwgdeimlad a phroblemau.

Meddyliwch y tu hwnt i’r confensiynol o ran digwyddiadau cymdeithasol, a pheidiwch â bod ofn gofyn am help. Dylai pobl allu dibynnu ar ei gilydd a bod yn onest.

Os ydych chi'n sefyll am rôl, peidiwch â gwneud hynny dim ond ‘er mwyn ei roi ar eich CV'. Nid yw hynny byth yn arwain at lwyddiant. Byddwch yn angerddol a byddwch yn barod i fentro: Mae angen GWNEUD yn ogystal â dweud.    

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576