Eleni rydym yn lansio ein Cronfa Agor Drysau. Dyma gronfa ar gyfer myfyrwyr sydd yn wynebu rhwystrau ychwanegol rhag sefyll ac ymgyrchu yn ein hetholiadau. Bydd hyn ar ben unrhyw addasiadau rhesymol y byddai’r Undeb yn cynnig i ymgeiswyr mewn digwyddiadau canolog ee mynediad heb risiau.
Mae’r gronfa yn cael ei neilltuo ar gyfer myfyrwyr sy’n hunaniaethu fel:
-
Anabl - byw gyda chyflwr iechyd hirfaith, nam corfforol, cyflwr iechyd meddwl neu niwroamrywiol. Rydym yn cydnabod yr anawsterau mae rhai yn wynebu mewn cael cefnogaeth broffesiynol ac yn derbyn diagnosis gennych chi eich hunan.
-
Amrywioldeb rhywedd - Traws, anneuaidd/non-bainari neu unrhyw rywedd y tu allan i'r agwedd draddodiadol o ddynion a menywod.
-
Menywod – mae hyn yn cynnwys pawb sy’n huniaethu fel menyw.
-
LHDTC+ - Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws, Cwîar, Heb ei hunaniaethu, rhyngrywiol, anrhywiol +
-
BIPOC – Du, Brodorol, Person o Liw.
-
Annibynnol – term rydym yn defnyddio sy’n cwmpasu myfyrwyr sy’n huniaethu fel pobl sy’n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifainc a/neu rieni mewn addysg.
Ceir isod enghreifftiau o systemau cefnogi rydych chi’n gallu ymgeisio sy’n cynnwys ond heb ei gyfyngu i:
Os ydych chi’n sefyll fel pâr, gallwch ymgeisio am y gronfa hon ar wahân.
Bydd penderfyniadau ynghylch rhoi arian y gronfa yn seiliedig ar angen yr ymgeisydd a’i allu i ymgyrchu ar lefel gyfartal ag eraill.
Bydd angen derbynneb pan yn gwario’r arian a bydd rhaid ei hanfon at union.elections@aber.ac.uk
Os ydych chi am ymgeisio, e-bostiwch union.elections@aber.ac.uk gan sôn am y rhesymau pam y byddai’r Gronfa Agor Drysau yn helpu dileu’r pethau sy’n eich rhwystro fel ymgeisydd. Byddwn yn trefnu sgwrs un-i-un er mwyn trafod y gefnogaeth addas i chi.
Bydd pob sgwrs yn gyfrinachol.