Cadwch ar y Trywydd
Go dda chi! Heddiw byddwch wedi derbyn eich canlyniadau, ac roedden ni am ddweud llongyfarchiadau! Nid yw eleni wedi bod yn brofiad cyffredin i fyfyrwyr, a dylech fod yn wirioneddol falch o’r ffaith eich bod chi wedi dal ati ac wedi gwneud eich gorau.
Gobeithio eich bod chi’n fodlon â’ch canlyniadau; serch hynny os nad ydych chi, yna peidiwch â digaloni gan fod gennych chi opsiynau, ac rydyn ni yma i helpu!
Os ydych chi am gael arweiniad ynghylch sut i apelio yn erbyn marc, neu ba gyfleoedd ar gyfer ail-sefyll all fod ar gael i chi, mae croeso i chi gysylltu â’n gwasanaeth cynghori.
Beth yw'r rhesymau dros apelio?
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi cael eich anfanteisio mewn unrhyw ffordd yn ystod eich astudiaethau, a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn eich canlyniadau, yna mae'n bosib bod gennych sail ar gyfer apêl academaidd.
I israddedigion, mae tair prif sail ar gyfer apêl, sef y canlynol:
- Amgylchiadau personol sydd wedi cael effaith niweidiol ar eich astudiaethau academaidd;
- Gwallau neu anghysondeb yn y modd y cafodd yr asesiad ei gynnal neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor a roddwyd;
- Tystiolaeth o ragfarn, neu duedd, neu asesiad annigonol ar ran un neu fwy o'r arholwyr.
I ôl-raddedigion ymchwil, mae sail ychwanegol:
- Tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol a bod rhesymau eithriadol pam nad yw'r myfyriwr wedi dwyn sylw at hyn cyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.
Dyddiadau cau ar gyfer Apelio:
Rhan 1 4ydd Mawrth
Rhan 2 11eg Mawrth
Mae gan fyfyrwyr ôl-raddedig ymchwil 20 diwrnod gwaith i apelio
Cofiwch: Ni fydd y Brifysgol yn derbyn apêl os eich unig bryder yw'r ffaith eich bod yn anghytuno â 'barn academaidd' y marcwyr neu'r Bwrdd Arholi.
Yr addasiadau rhwyd-ddiogelwch
Mewn blwyddyn academaidd arferol, dim ond os yw wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig, a’u bod wedi’u derbyn gan ei adran, y byddai gan fyfyriwr hawl i ail-sefyll asesiad a fethwyd heb gap ar y marc. Fodd bynnag, nid yw hon yn flwyddyn academaidd arferol.
Dyma'r pwyntiau allweddol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt ...
- Nid oes bellach angen ffurflenni amgylchiadau arbennig am weddill y flwyddyn academaidd hon, ac yn lle hynny mae hyn ar gael yn awtomatig i bob myfyriwr.
- Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i ail-sefyll yn awtomatig, heb gap ar y marc, ar gyfer asesiadau a FETHWYD neu rai heb eu cyflwyno.
- Yn dibynnu ar eich blwyddyn astudio gyfredol, bydd rhai myfyrwyr hefyd yn gymwys i gael ail-sefyll asesiadau a BASIWYD heb gap ar y marc.
Sut bydd y trefniadau ail-sefyll yn gweithio?
- Os ydych chi ym mlwyddyn olaf eich cwrs (Ôl-raddedig a Addysgir, 3edd flwyddyn Israddedig, 4edd blwyddyn cwrs meistr integredig a.y.b.) pan fyddwch yn derbyn eich dosbarthiad gradd cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, byddwch yn gallu derbyn y marc fel y mae neu ei wrthod ac ail-sefyll un neu fwy o asesiadau i wella'ch dosbarthiad.
- Os nad ydych chi yn eich blwyddyn olaf, ond bydd eich asesiadau yn dal i gyfrif tuag at eich gradd gyffredinol (2il flwyddyn IR, 2il a 3edd blwyddyn meistr integredig a.y.b.), cewch gyfle i ofyn am ail-sefyll unrhyw asesiad neu fodiwl, pasio neu fethu.
- Ar gyfer unrhyw asesiadau na fydd yn cyfrif tuag at eich dosbarth gradd terfynol (mae hyn ar eich cyfer chi’r glasfyfyrwyr), dim ond ar asesiadau a fethwyd neu sydd heb eu cyflwyno y bydd cyfle i ail-sefyll heb gap ar y marc.
- Dim ond os yw'n uwch na'r marc gwreiddiol a gyflawnwyd gennych y bydd unrhyw farc a gyflawnir yn ystod y cyfnod ail-sefyll yn cael ei gadw - os na fyddwch yn gwella'ch marc yr eildro, ni fydd yn cyfrif, a bydd y marc gwreiddiol yn aros.
- Bydd myfyrwyr sy'n ail-sefyll asesiad a basiwyd yn flaenorol yn cael UN cyfle i wneud hynny ym mis Awst 2021. Dim ond os caniatáwyd amgylchiadau arbennig ar y pryd y byddwch yn gallu ail-sefyll yn hwyrach na hyn.
I drafod eich opsiynau neu am fwy o wybodaeth, gallwch fwrw golwg ar ein Canllawiau Apeliadau Academaidd ymaneu gysylltu â chynghorydd, Ffôn: 01970 621712 E-bost undeb.cyngor@aber.ac.uk
