Helo Gyfeillion!
Yn ddiweddar, daeth y ddau ohonom i wybod am raglen newydd a gynigir gan Student Minds, elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Enw'r rhaglen yw Student Space sy'n blatfform cydweithredol ar-lein a lansiwyd ddydd Llun 10fed Awst. Mae'n safle newydd i helpu a chynnig cymorth i fyfyrwyr trwy'r pandemig corona – www.studentspace.org.uk.
Mae Student Space yn cynnig ystod o ymyriadau sy'n cynnwys mesurau ataliol, yn amrywio o gymorth gan gyfoedion i adnoddau seicoaddysgol a ddatblygwyd yn glinigol.
Mae gan Student Space hefyd rif rhadffôn penodol sy’n eich galluogi i gael cymorth gwrando, gwybodaeth ac atgyfeirio rhwng 4pm ac 11pm. Mae cymorth trwy neges destun 24/7 am ddim hefyd ar gael, lle maent yn darparu cymorth a fydd yn diwallu ystod eang o anghenion Myfyrwyr.
O ran anghenion amrywiol cymuned y myfyrwyr, nod Student Space yw cydweithredu â sefydliadau arbenigol, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli gwahanol grwpiau rhyddhad (e.e. myfyrwyr LHDTC+, myfyrwyr CALlE, myfyrwyr anabl). Hefyd cymorth gyda materion penodol yn ymwneud â thrais domestig a phrofedigaeth, yn ogystal â gwahanol feysydd iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta, seicosis a.y.b.
Cofiwch fod gennym hefyd ein gwasanaeth cynghori ar gael yn yr Undeb. Os ydych chi'n dioddef ac angen cymorth, yna estynnwch allan, mae'r Samariaid yn rhif y gallwch ei ffonio ar adegau o angen.
Gobeithio bod pawb mewn iechyd a hwyliau da, a chofiwch gymryd peth amser llesiant i chi'ch hun!
Gyda chariad, Connor a Nate