Blog Molly - Gad i ni siarad am ryw cariad!

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gad i ni siarad am ryw cariad, dwi’n siarad amdanat ti… Ie ti!

Daw blog yr wythnos hon atoch yn syth o'r ystafell wely. Rydych chi’n iawn, yr wythnos hon rwy'n siarad â chi i gyd am ryw, pa help y gallwch ei gael yn Aber a beth mae'r UM yn ei wneud i chi!

 

Dangoswch eich balchder!

Mae rhyw yn dod ym mhob ffurf, maint, lliw ac arddull. Dathlwch yr hyn rydych yn ei hoffi, a hoffwch yr hyn rydych chi'n ei garu. Mae rhyw yn wahanol i bawb. P'un a ydych chi'n ei gael gyda bachgen, merch, arall, neu neb, mae'n dal i fod yn bwysig gwybod am bob agwedd o fywyd fel oedolyn sy'n cael rhyw o bryd i’w gilydd.

Mae hefyd yn bwysig nodi, os nad ydych chi'n ymwneud yn uniongyrchol â bywyd rhywiol rhywun arall, yna gadewch lonydd iddyn nhw. Ni ddaw unrhyw niwed o dipyn o hwyl a sbri, felly gadewch iddyn nhw fod.

 

Rhamant Rhywiol

Mae pawb yn hoffi pethau gwahanol yn yr ystafell wely, neu'r gegin, neu'r ystafell fyw… mae’r darlun yn glir, yntydi? Felly mae’r UM yno i’ch helpu i gadw’n ddiogel pan fyddwch chi wrthi. Yn yr UM ger Hyb y Swyddogion, gallwch ddod o hyd i gondomau (rhai cryf a rhai cyffredin!), iriad a chynhyrchion glanweithiol. Rydym yn ceisio dod o hyd i stoc arall o atalion dannedd, felly peidiwch â phoeni, gobeithio y byddant yn ôl mewn stoc ar gyfer pawb sydd am osgoi herpes y geg!

Iawn, felly dydy rhyw ddim bob amser mor rhywiol, weithiau mae'n gallu mynd yn eithaf afiach; mae bacteria a heintiau yn rhan o’r profiad, a does neb yn hoffi gafl goslyd. Felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael archwiliad rheolaidd yn y clinig ger Padarn (mae wedi symud o Ffordd y Gogledd!!) ac os ydych chi'n newid partneriaid rhywiol o gwbl, ewch am archwiliad rhwng y naill a’r llall! Ac NID yw partneriaid rhywiol yn golygu dim ond rhyw; gall chlamydia a heintiau hyfryd eraill ymddangos yn y gwddf yn ogystal, felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael archwiliad rheolaidd… os gwelwch yn dda…

 

Dogn iach o ryw

Nid oes y fath beth â rhy ychydig na gormod o ryw, mae'n fater o ddewis, felly beth am i ni i gyd roi’r gorau i geisio codi cywilydd ar ein gilydd oherwydd ein hanturiaethau rhywiol? Diolch. Gadewch i bobl gael pa fath bynnag o ryw maen nhw ei eisiau, eto - os nad yw'n effeithio arnoch chi, gadewch iddyn nhw wneud beth maen nhw am ei wneud!

Fodd bynnag, mae mwy i fywyd rhywiol iach na faint yr ydych chi'n ei gael neu pa mor aml rydych chi'n cael eich archwilio. Mae hefyd yn ymwneud â pha mor ddiogel yr ydych yn teimlo yn y sefyllfa honno, pa mor gyfforddus rydych chi'n teimlo wrth ddweud ‘na’ heb deimlo mor euog nes eich bod yn dweud ‘ie’ yn fuan wedyn. Mae rhyw iach yn ymwneud â chydsyniad. Sicrhau bod y person arall yn iawn cyn, yn ystod ac ar ôl. Os bydd rhywun yn dweud na, yna MAE'N GOLYGU NA !! Parchwch hynny.

 

Beth i'w ddisgwyl, pan fyddwch chi'n disgwyl

Weithiau, mae condomau’n torri neu rydych chi'n bwriadu dod oddi ar y bilsen neu mae’r annisgwyl yn digwydd a dyna chi’n feichiog. Yma yn yr Undeb rydym o blaid dewis, sy'n golygu bod gennych chi ferched reolaeth lwyr dros eich cyrff eich hun wrth wneud y penderfyniad hwn. Ac mae hynny'n beth da, yntydi?  Felly os oes angen cyngor arnoch chi a'ch bod chi eisiau help, yna ewch i’r feddygfa neu'r clinig, a gallant roi cyngor i chi ar gynllunio teulu. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud yr hyn sydd orau i chi!

Ond mae mwy i hyn na dim ond cymorth meddygol; byddwch yn ymwybodol sut y gall penderfyniadau o'r fath effeithio ar eich astudiaethau a'ch llesiant cyffredinol hefyd. Gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei benderfynu, gall ein Gwasanaeth Cynghori drafod gwybodaeth am yr effaith y bydd unrhyw benderfyniad yn ei chael ar eich astudiaethau yn ogystal â’ch cyfeirio at gymorth ychwanegol lle bo angen.

 

Dwi’n credu mai dyna’r holl ensyniadau ofnadwy y gallaf feddwl amdanynt. I grynhoi, byddwch yn ddiogel, byddwch yn glyfar ac ewch ati i gael tipyn o hwyl; mae cydsyniad yn allweddol ac mae rhai dulliau atal cenhedlu hefyd yn atal heintiau rhag cael eu trosglwyddo. Yn syml, byddwch yn hapus ac yn iach, a bydd pawb ohonom yn gallu mwynhau bywyd.

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576