Ar 18 Ebrill, es i gyda 4 myfyriwr CALlE arall ym Mhrifysgol Aberystwyth ar daith i Abertawe i fynychu Diwrnod y Gweithredwyr Croenddu a drefnwyd gan Swyddog Croenddu UCM Cymru. Treuliwyd y diwrnod yn rhwydweithio gyda myfyrwyr CALlE eraill yng Nghymru ac yn rhannu profiadau.
O segmentau ysbrydoledig gan y panel a oedd yn cynnwys menywod croenddu sy'n arweinwyr, i sgwrs fywiog a chyffrous ar arweinyddiaeth groenddu gan Ceewhy o Black Impact, cafwyd y cydbwysedd perffaith o ysbrydoliaeth a gobaith ar Ddiwrnod y Gweithredwr Croenddu. Hefyd, helpodd ni i ddeall yn well y strwythurau sefydliadol sy'n atal myfyrwyr CALlE rhag ennill graddau uchel a symud ymlaen mewn addysg. Trafodwyd y bwlch cyrhaeddiad a strategaeth Prevent sy'n targedu myfyrwyr croenddu yn annheg a'r hyn roedd angen i ni ei wneud i oresgyn y rhwystrau hyn a sut mae rheoli ein tynged ein hunain.
Fel Swyddog CALlE, dyma ddiwrnod gorau fy nghyfnod yn y rôl. Roeddwn i ymysg pobl â meddylfryd a phrofiadau tebyg a gwelais i'r myfyrwyr CALlE a ddaeth gyda fi yn llawn egni, gobaith ac awydd i fod yn fwy rhagweithiol.
Yn eu geiriau eu hun:
Regina Marianna Aiken
Roedd y profiad cyfan yn addysgol, yn ysbrydoledig ac yn gyffrous. Roedd hi'n braf gweld menywod croenddu ar y panel yn rhannu eu profiad o lwyddiant mewn rolau arwain a'r heriau mae pob un ohonyn nhw wedi'u goresgyn. Yn ogystal â hyn, doedd gwrando ar y trafod ynglyn â methiant polisi PREVENT ddim yn syndod yn anffodus pan ddaeth achosion o anghyfiawnder clir yn amlwg. Rhoddodd oleuni ar bwysigrwydd siarad yn erbyn polisïau sy'n camddefnyddio'r system i dargedu cymunedau ac unigolion gyda chyhuddiadau amwys a chamarweiniol. Ces i fy sbarduno'n fwy gan y siaradwr olaf. Roedd cynrychiolydd y mudiad Black Impact yn un o ysbrydoliaeth barhaus. Roedd llawer o negeseuon i'w cymryd o'r drafodaeth hon, yn benodol y neges o greu atebion cadarnhaol i broblemau cymdeithasol sy'n bodoli eisoes.
Gydol y diwrnod, roedd angen llawer iawn o rwydweithio a gwrando ar unigolion CALlE yn rhannu profiadau personol mewn man diogel arna i. O ran gwella, dwi'n meddwl y dylai mwy o fyfyrwyr sy'n uniaethu â grwpiau eraill, yn ogystal â CALlE, ddod i rannu eu safbwynt a'u barn ar destunau. Diolch yn fawr i'n Swyddog CALlE, Ammaara, am drefnu'r daith hon.
Duanie Kim
Doedd dim diwrnod nac amser gwell i sgwrsio am weithgarwch yn y gymuned groenddu na ddydd Mercher 18 Ebrill. Roedd y camsyniad teimladol rhwng fy nghyffro a'r tywydd yn gysylltiedig gan roedd yr haul hefyd yn adlewyrchu'r croeso cynnes a gawsom ni gan y rheiny yn Abertawe. Pan fyddwch chi'n dioddef o ddiffyg cymhelliant, gwacter neu hyd yn oed iselder, gall mynd i ddigwyddiadau ysbrydoledig fel y rhain eich helpu chi i wella. Sylweddolais i'n syth, sut gall diffyg cynrychiolaeth groenddu ac ethnig arall mewn amryw academia effeithio'n negyddol ar brofiadau ieuenctid sy'n dioddef yr un gormes. Cefais i fy ysbrydoli i weithio ar fy sgiliau arwain a llwyddodd y siaradwyr i ailgynnau'r fflâm oedd gen i, ac adfer yr hyder i fod yn groch ac yn falch o'r hyn dwi'n sefyll drosto a hyd yn oed yn fwy balch o fy hunaniaeth groenddu a'r hud sy'n dod â hi. Os ydych chi erioed wedi amau ?theori effaith y pili pala, defnyddiwch fy mhrofiad i fel enghraifft gan y bydda i'n mynd ati i sbarduno mwy o bobl fel fi.
Bydd Ammaara, Regina a Duanie yn mynychu Cynhadledd Genedlaethol Myfyrwyr Duon ym mis Mai.
Ydych chi am gymryd rhan?
Ymunwch â grwp y rhwydwaith CALlE ar Facebook neu e-bostiwch Ammaara gyda'ch profiadau a'ch syniadau.
Rydyn ni wrthi'n chwilio am syniadau ar gyfer gweithgareddau Mis Hanes Croenddu!
Mae llawer mwy i ddod gan Ammaara a'r Undeb eleni ond mae angen eich help chi arnom! Po fwyaf y myfyrwyr sy'n cymryd rhan, y mwyaf llwyddiannus fydd ein huchelgais i greu newid.