Emma Beenham yw’ch Swyddog Materion Academaidd eleni. Mae'r rôl hon yn rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.
Emma Beenham yw’ch Swyddog Materion Academaidd eleni.
Mae'r rôl hon yn rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.
Dyma gyflwyniad bach i ddod i’w adnabod hi, beth wnaeth hi astudio yma yn Aber & pam iddi sefyll am y rol hon:
O ble wyt ti'n wreiddiol?
Torquay yn Nyfnaint
Beth astudioch chi ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Daearyddiaeth Ffisegol
Pam wnes di ddewis astudio yn Aberystwyth?
Dwi wastad wedi dwli ar fyw ar lan y môr felly roedd bod â thraeth ar fy stepen drws yn bwysig i mi. Hefyd, dwi wedi bod yn dod i Aberystwyth a'r Borth ar wyliau ers i mi fod yn ifanc, felly roeddwn i'n adnabod yr ardal yn dda ac yn gwybod ei bod yn lleoliad gwych. Mae'r brifysgol hefyd yn fyd enwog yn fy adran ac roedd hynny'n sicr yn amlwg pan ddes i fy niwrnod agored - roedd pawb mor groesawgar a chyfeillgar ac roeddwn i'n gwybod mai hwn oedd y lle roeddwn i am astudio ynddo am 3 blynedd!
Pam wnes di sefyll am y rôl hon?
Dwi wedi cyfranogi yn llais y myfyriwr o safbwynt academaidd ers fy mlwyddyn gyntaf pan oeddwn i'n gynrychiolydd myfyrwyr fy nghwrs, felly mae trafodaethau rheolaidd â myfyrwyr a staff yn rhywbeth dwi'n gyfarwydd iawn â nhw ac yn mwynhau eu gwneud yn fawr. Fel cynrychiolydd academaidd, dwi wedi gweld llawer o newidiadau yn y brifysgol ac yn fy adran a dwi wedi cyfrannu at lawer ohonyn nhw, felly roedd sefyll i fod yn Swyddog Materion Academaidd yn gam nesaf cyffrous i mi, oherwydd gydol fy nhaith fel myfyriwr dwi wedi dod ar draws sawl peth roeddwn i am ei newid a gwneud gwahaniaeth iddo.
Ffaith ddiddorol neu 'random' amdana ti dy hun...
Mae gen i ofn mawr unrhywbeth sydd â phig... Mae pob aderyn yn codi arswyd arna i, yn enwedig colomennod a hwyaid, er fy mod i wedi byw ar lan y môr gydol fy mywyd. Os gofynnwch chi'n garedig, efallai fe wnai sôn am yr achlysur pan fu i golomen ymosod arnaf...
At beth wyt ti’n edrych ymlaen eleni?
Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda'r swyddogion newydd a siarad â myfyrwyr am eu hundeb a'r hyn maen nhw am ddatblygu arno a gwella arno yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.