Molly-Jean Longden yw’ch Swyddog Llesiant eleni. Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr yn hapus ac yn iach.
Molly-Jean Longden yw’ch Swyddog Llesiant eleni.
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr yn hapus ac yn iach.
Dyma gyflwyniad bach i ddod i’w adnabod, beth wnaeth hi astudio yma yn Aber & pam iddi sefyll am y rôl hon:
O ble wyt ti'n wreiddiol?
Manceinion
Beth astudioch chi ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Astudiaethau Drama a Theatr
Pam wnes di ddewis astudio yn Aberystwyth?
Yr ymdeimlad o gartref pan es i ar fy ymweliad cyntaf.
Pam wnes di sefyll am y rôl hon?
Roeddwn i'n credu y byddai modd i mi wneud gwahaniaeth i'r ffordd mae'r undeb a'r brifysgol/cymuned leol yn cydweithio i sicrhau'r ansawdd uchaf posib o iechyd a gofal cymdeithasol i fyfyrwyr Aber. Cwympais i mewn cariad â'r brifysgol hon pan ddes i yma'n gyntaf ac roeddwn i am sicrhau bod pobl yn dal i gael yr un ymdeimlad o gyffro a gefais i pan gyrhaeddais i yma a bod profiadau da yn parhau gydol cyfnod y myfyrwyr yn ein prifysgol hyfryd. Mae llawer o bethau sy'n ymwneud â llesiant yn newid ac roeddwn i am sicrhau bod y myfyrwyr yn cael y llais gorau posib pan fydd penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.
Ffaith ddiddorol neu 'random' amdana ti dy hun...
Un tro chwalais i fy meic mor rhyfeddol, llwyddais i chwerthin a chrio yr un pryd!
At beth wyt ti’n edrych ymlaen eleni?
Cwrdd â chymaint o bobl newydd a sicrhau y byddan nhw i gyd yn cael y profiad gorau posib gan Aber!