Bruce Wight yw’ch Swyddog Datblygu’r Undeb eleni.
Bruce Wight yw’ch Swyddog Datblygu’r Undeb eleni.
Mae'r rôl hon yn adlewyrchu dechrau pennod newydd ar gyfer yr Undeb drwy ganolbwyntio ar wneud yr Undeb yn well ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod llais myfyrwyr i'w glywed.
Dyma gyflwyniad bach i ddod i’w adnabod, beth wnaeth o astudio yma yn Aber & pam iddo sefyll am y rôl hon:
O ble wyt ti'n wreiddiol?
Loughborough / Galashiels
Beth astudioch chi ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mathemateg
Pam wnes di ddewis astudio yn Aberystwyth?
Golygfeydd o'r môr, digon o dafarndai a mwynheais i'n fawr y sesiwn siarad â'r darlithwyr ar ddiwrnod agored a theimlais i y byddwn i'n mwynhau fy nghyfnod yn astudio.
Pam wnes di sefyll am y rôl hon?
I mi, rhoi rhywbeth yn ôl i gymuned y myfyrwyr sydd wedi gwneud cymaint i mi yn ystod fy nghyfnod yn astudio yma dros y tair blynedd ddiwethaf.
Ffaith ddiddorol neu 'random' amdana ti dy hun...
Dwi'n Swyddog cymwysedig Cymorth Cyntaf ar y Mynydd.
At beth wyt ti’n edrych ymlaen eleni?
Datblygu cymuned y myfyrwyr a'u profiad mewn unrhyw fodd y gallaf, yn ogystal ag annog cymaint ohonom ni fyfyrwyr i gymryd rhan yn nemocratiaeth yr Undeb am fod ganddi effaith mawr ar yr hyn fydd eich profiad fel myfyrwyr yn ystod eich cyfnod yn astudio yma.