Jessica Williams yw’ch Swyddog Cyfleoedd i Myfyrwyr eleni.
Mae'r rôl hon yn rhoi sylw penodol ar roi i fyfyrwyr Aber y daith myfyrwyr orau posib a rhoi iddynt fwy na dim ond gradd.
Dyma gyflwyniad bach i ddod i’w adnabod hi, beth wnaeth hi astudio yma yn Aber & pam iddi sefyll am y rol hon:
O ble wyt ti'n wreiddiol?
De Cymru, Caerffili
Beth astudioch chi ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Drama, theatr a ffilm a theledu
Pam wnes di ddewis astudio yn Aberystwyth?
Dewisais i astudio yn Aberystwyth am fy mod i'n dwli ar amgylchedd trefol y myfyrwyr. Gan ei bod yn gymuned agos, dim ond pum munud i ffwrdd yw ein ffrindiau a'n campws hyfryd. Rydyn ni'n funudau i ffwrdd o'r traethau hardd lle mae'r machlud haul yn anhygoel, a gyda myfyrwyr a'r traethau'n agos, allwn i byth ddiflasu.
Pam wnes di sefyll am y rôl hon?
Penderfynais i sefyll am y rôl hon oherwydd roeddwn i'n cyfranogi'n fawr yn yr Undeb wrth astudio yma. Yn fy ail flwyddyn, fi oedd ysgrifennydd cymdeithasol hwb-ddawnswr y Tarannau ac yn fy nhrydedd flwyddyn cefais fy ethol yn gapten. Gyda'r profiad hwn, roeddwn i am ystyried rôl y swyddog cyfleoedd ac ymgymryd â her newydd.
Ffaith ddiddorol neu 'random' amdana ti dy hun...
Dwi'n dwli ar ddiwylliant a hanes Cymru ac yn falch fy mod i'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Dwi'n 5'1 ond yn gallu wynebu tacl rygbi. Pan ddaw'r gaeaf, byddwn i a fy eirfwrdd yn dianc ar antur arall a dwi'n dwli ar deithio.
At beth wyt ti’n edrych ymlaen eleni?
Bydd eleni'n her ond yn brofiad cyffrous i mi a dwi'n edrych ymlaen at yr hyn fydd y rôl yn ei gynnig. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr a chymharu fy mhrofiad yn y rôl am fy mod i'n gallu deall yr hyn sydd ei eisiau ar fyfyrwyr.