Y Diweddaraf ar Gyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gofynnodd nifer ohonoch gwestiynau oedd yn ymwneud yn benodol â Chyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon yn ystod yr ymgynghoriad diweddar "Holi'r Is-ganghellor".

Mae eich Swyddog Gweithgareddau, Jasmine, wedi bod mewn cysylltiad â'r Ganolfan Chwaraeon er mwyn ceisio mynd at wraidd rhai pethau a llunio ymateb i'r cwestiynau rydych chi wedi bod yn eu gofyn.

Isod mae'r ymateb a dderbyniodd gan Darren, Rheolwr Cyffredinol y Ganolfan Chwaraeon - mae'n edrych yn ddigon cadarnhaol, a dwi'n gobeithio y bydd yn llonni eich diwrnod, beth bynnag sydd gan y tywydd i'w gynnig!

Cae Aml Dywydd (CAD)

Cynigiwyd gofalu am y CAD allan i dendro ynghynt yn y flwyddyn, ac y sgil hynny, cynigiwyd y cytundeb i'r contractwyr Agripower. Byddant yn gosod 'carped' newydd, ac efallai y bydd angen adnewyddu'r 'pad' sydd oddi tano; does dim sicrwydd am hyn hyd nes caiff y carped presennol ei godi, ond mae cynllun wrth gefn ar gyfer hynny hefyd. Byddant y trwsio'r ffens sydd o amgylch y maes ac yn adnewyddu'r rhwydi sydd tu cefn i'r goliau i atal peli.  Yr amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn yw rhwng 29 Mai a 31 Gorffennaf, ond mae hynny'n dibynnu cryn lawer ar y tywydd. Serch hynny, bydd y prosiect wedi'i gwblhau'n barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Rydyn ni hefyd wedi prynu goliau newydd ar gyfer hoci fis Awst llynedd, ar gost o £6k.

Llawr y Cawell Chwaraeon

Mae'r fanyleb ar gyfer llawr newydd yn cael ei benderfynu mewn partneriaeth rhwng y Ganolfan Chwaraeon ac EDD. Y nod yw gosod llawr newydd ar gyfer nifer o wahanol gampau (at safon BS EN 14904) yn lle'r un presennol. Y bwriad yw cwblhau'r gwaith hwn yn ystod Gorffennaf, ond nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau hyd yma, gan nad ydym eto wedi pennu contractwyr drwy'r broses dendro. Mae disgwyl i hyn hefyd fod yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Cyrtiau Sboncen

Mae hon wedi bod yn broblem sylweddol i'r Adran Ystadau ers nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd mae'r llwybr allanol sydd ger y Cawell yn uwch na'r cyrtiau sboncen (o'r tu mewn, mewn cyrtiau islaw lefel y ddaear). Oherwydd draenio gwael, mae dwr glaw yn bwrw'r llwybr ac yn gwasgaru; wedyn mae'n gollwng drwy waliau allanol y Cawell gan effeithio'n uniongyrchol ar y waliau allanol.  Ar hyn o bryd, ni allwn gynnig unrhyw ddatrysiad ar wahân i barhau i ymarfer yn y Cawell a chwarae gemau cystadleuol ym Mhlascrug.

Cyfleusterau Chwaraeon yn Gyffredinol:

Campfeydd

Rydyn ni wedi buddsoddi £250k yn ddiweddar yng nghyfleusterau'r gampfa, gan brynu cyfarpar newydd. Mae pob campfa wedi cael ei moderneiddio a'i strwythuro i fod yn fwy cydnaws â defnyddwyr ac yn fwy cyfeillgar i'r myfyrwyr sy'n eu defnyddio.

Ystafelloedd Newid y Pwll Nofio

Mae disgwyl i waith ar adnewyddu'r llawr yn ystafelloedd newid y pwll gael ei gwblhau yn ystod Mehefin.

Ymdrin ag Aer

Rydyn ni wedi gwario £13k yn ddiweddar ar ffioedd ymgynghori er mwyn mynd i'r afael ag ymdrin ag aer yn y brif Neuadd Chwaraeon, yr Ystafell Ddawns a'r Gampfa; dyma'r ardaloedd y gofynnodd myfyrwyr am gael eu gwella.  

Dwi'n gobeithio y gallwch chi weld ein bod ni'n gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r boddhad gorau posib, o fewn y cyfyngiadau rydyn ni'n gweithio danynt ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd yr aelodaeth Platinwm fydd ar gael ar gyfer y semester nesaf er mwyn cael mynediad i'r Ganolfan Chwaraeon, yn ychwanegu gwerth pellach at fywyd yn y Brifysgol i bawb.  

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576