Wythnos 'This Girl Can': Louisa o Pelrhwyd

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

1. Pam wyt ti'n cymryd rhan mewn chwaraeon?

*Dwi'n mwynhau elfen gystadleuol y gamp yn ogystal â'r ffaith eich bod chi'n cadw'n heini heb sylweddoli. Dwi'n meddwl bod llawer mwy o hwyl i'w gael wrth chwarae'r gamp am awr na threulio awr ar eich pen eich hunan yn y gampfa. Hefyd, mae'n ffordd wych o gymdeithasu. Dwi wedi creu llawer mwy o ffrindiau trwy chwaraeon na thrwy fy nghwrs. Mae'n seibiant perffaith o'r gwaith ac mae'n gwneud i chi deimlo ddeg gwaith yn well bob tro ar ôl i chi lusgo allan o'r gwely a mynd i sesiwn hyfforddi!

 

2. Pa gampau wyt ti'n eu chwarae?

*Dim ond pêl-rwyd ar hyn o bryd ond byddwn i wrth fy modd yn chwarae mwy. Dwi wedi chwarae hoci ac wedi marchogaeth bron gydol fy mywyd, ond o ran ymrwymiad, dwi'n meddwl ei bod hi'n well cadw at un!

 

3. A thithau'n ferch, pa heriau wyt ti wedi eu hwynebu mewn chwaraeon?

*Dwi wedi bod yn ffodus a heb wynebu unrhyw heriau mewn chwaraeon. Dwi'n dod o deulu sy'n hoff iawn o chwaraeon felly dwi wedi cael digon o gyfleoedd i gymryd rhan. Mae'r ffaith bod gen i bedwar brawd hyn a fy mod i'n ferch wedi bod yn fantais yn hytrach nag anfantais yn fwy na thebyg; roeddwn i am brofi fy mod i mor dda â'r bechgyn drwy'r amser!

 

4. Beth wyt ti wedi ei gyflawni mewn chwaraeon? Unrhyw gymhwyster?

*Dwi wedi chwarae hoci dros sir Swydd Henffordd a rhanbarth De Ddwyrain Cymru, dwi wedi marchogaeth ar lefel weddol uchel, yn bennaf yn dressage, a fi yw llywydd presennol clwb pêl-rwyd y Brifysgol.

 

5. Beth sydd gen ti i’w ddweud wrth ferched yn Aber sydd am roi cynnig ar chwaraeon, ond sydd yn rhy ofnus?

*Gall chwaraeon yn y brifysgol newid eich profiad yn y brifysgol yn llwyr. Dwi'n adnabod sawl merch nad oedden nhw'n hoffi Aber o gwbl a nawr dydyn nhw byth am adael gan fod chwaraeon wedi rhoi hunanhyder, cyfeillgarwch a chefnogaeth iddyn nhw. Mae'r holl glybiau'n hygyrch iawn yn Aber. Does dim llawer o ots os nad ydych chi wedi chwarae erioed, galla i sicrhau nad chi fydd yr unig un. Mae pawb yn nerfus wrth ymuno â chlwb neu grwp newydd ond mae pawb yn y clwb hwnnw wedi bod yn yr un sefyllfa â chi felly rhowch gynnig arni! 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576