Sylw ar Tickled Pink

Mae Tickled Pink yn gymdeithas wirfoddoli sy'n codi arian ar gyfer dwy elusen cancr y Fron; Breast Cancer Care a CoppaFeel!.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio
Tickled Pink AberSU

Mae Tickled Pink yn gymdeithas wirfoddoli sy'n codi arian ar gyfer dwy elusen cancr y Fron; Breast Cancer Care a CoppaFeel!. Gallwch eu gweld yn aml yn cymryd drosodd y dref gyda gliter, wedi'u gwisgo fel bronnau enfawr, neu'n gwerthu teisennau i godi arian yn yr Undeb; ymysg pethau eraill. Nod Tickled Pink yw nid yn unig codi cymaint o arian â phosib ar gyfer eu dwy elusen, ond hefyd codi ymwybyddiaeth ynglyn ag arwyddion a symptomau cancr y fron, ynghyd â phwysigrwydd gwirio eich bronnau.

Yn ogystal â bod yn gymdeithas sy'n arwain ei hun, mae Tickled Pink hefyd yn rhan o ymgyrch ledled y DU gyda CoppaFeel! o'r enw Uni Boob Team (UBT). Mae tua 70 UBT ar draws y DU, i gyd yn gweithio i ledaenu neges bwysig CoppaFeel! ynglyn ag arwyddion a symptomau cancr y fron ymysg poblogaeth y myfyrwyr. Er bod pob UBT yn gweithio gyda'i gilydd i addysgu'r gwledydd a chodi cymaint o arian â phosib, mae yna hefyd elfen fach o gystadleuaeth ymysg y timau o ran pwy all: a) feddwl am y syniad gorau ar gyfer codi arian, a b) codi'r swm mwyaf o arian. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tickled Pink wedi bod yn un o'r timau Uni Boob gorau yn y DU, drwy godi dros £10,000 yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, sefydlu proffil amlwg i CoppaFeel! yn Aberystwyth a meddwl am syniadau anhygoel ar gyfer codi arian, megis y Parti Gliter bythgofiadwy yn y Why Not Bar & Lounge.

O ganlyniad i waith caled Tickled Pink ar ran CoppaFeel!, maent wedi cael eu gwobrwyo gan yr elusen ar ddau achlysur gwahanol. Yn Chwefror 2016, cynhaliodd CoppaFeel! ddigwyddiad 'Boob-ball Enwogion’ yn y Copperbox Arena ym Mharc Olympaidd Llundain. (Mae Boob-ball yn debyg i dodgeball, ar wahân i'r ffaith bod y peli ar ffurf bronnau). Estynnwyd gwahoddiad i'r Llywydd ar y pryd (eich Swyddog Lles cyfredol, Naomi) i gymryd rhan yn y gêm ymysg y sêr. Roedd yn aelod o'r un tîm â Matt Edmunson o Radio 1, Mario Falcone a Dan Edgar o TOWIE, yn ogystal ag Ashley James a Tahnee Seagrave. Roedd y timau eraill yn cynnwys Russell Howard, Tom Fletcher o Mcfly, Gaby Roslin a llawer mwy. Teithiodd rhai aelodau o Tickled Pink i Lundain am y diwrnod i ddangos eu cefnogaeth i'w Llywydd wrth iddi hi daflu bronnau o amgylch y cwrt; a gwylio ei thîm yn ennill y tlws! Gallwch ddarllen mwy am ddigwyddiad Boob-ball CoppaFeel! yma: https://coppafeel.org/celebrity-boob-ball-2016/.

Roedd yr ail achlysur lle gwobrwywyd Tickled Pink gan CoppaFeel! fis diwethaf, lle cafodd aelodau o bwyllgor 16/17 gyfle i gwrdd â Russell Howard pan oedd ym Manceinion fel rhan o'i daith gomedi. Treuliodd y merched y noson yn y ddinas, a chafwyd cyfle am ginio a sgwrs â Russell cyn mwynhau'r sioe; hyd oll yn sgil codi mwy o arian nag unrhyw gymdeithas UBT arall yn y DU yn ystod y semester cyntaf.

Mae tîm Uni Boob Aberystwyth yn fach o gymharu â rhai o'r dinasoedd mawrion a'u timau, serch hynny rydyn ni wedi llwyddo bod yn un o'r timau gorau yn y DU. Er gwaethaf bod mewn tref wledig, mae Tickled Pink wedi gwneud cyfraniad aruthrol at waith elusennol a gwirfoddol, sydd wedi cael ei wobrwyo mewn ffyrdd anhygoel; tîm bach ond grymus o wirfoddolwyr sy'n haeddu cael eu dathlu.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576