SEFWCH NAWR !

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae'r Etholiadau wedi cyrraedd ond efallai na fyddwch chi'n gyfarwydd â'r drefn eleni gan y byddwn ni'n cynnwys etholiadau'r Cynrychiolwyr Academaidd am y tro cyntaf. Mae mwy na 173 o gynrychiolwyr academaidd i'w hethol ac rydyn ni wedi gweithio'n galed yn ystod yr haf gyda'r adrannau i greu un broses sefyll a phleidleisio ar gyfer y Cynrychiolwyr Academaidd.

Ond nid rhain yw'r unig rolau i'w hethol; bydd modd i chi sefyll i fod yn swyddog rhan amser ac yn gynrychiolydd athrofa hefyd. Rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr i sefyll i fod yn gynrychiolwyr yng nghynadleddau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr lle gallwch chi fod yn llais myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth drwy fynychu cynadleddau cenedlaethol a gynhelir rhwng Mawrth a Mai y flwyddyn nesaf.

Yn olaf ond nid lleiaf, rydyn ni hefyd yn chwilio am un myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig i ymuno â'n Bwrdd Ymddiriedolwyr sy'n sicrhau bod yr Undeb yn cael ei weithredu'n dda a'i fod yn ateb ei amcanion ac yn gweithio o fewn y rheolau cyfreithiol a chyfansoddiadol a osodir yn ei ddogfennau llywodraethu.

Ni fu adeg well erioed i ddylanwadu ar ddyfodol yr Undeb a'r Brifysgol. Rydyn ni wedi dechrau cynllun newydd ar gyfer y blynyddoedd o'n blaenau sy'n ymchwilio i bopeth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud. Yn ystod yr wythnosau nesaf, er y byddwch chi'n gweld digon o bwyslais ar rolau'r cynrychiolwyr academaidd a'r swyddogion rhan amser, sicrhewch eich bod chi'n bwrw golwg ar y rolau eraill sydd ar gael hefyd.

I sefyll etholiad, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau a chwblhewch un o'r ddwy ffurflen ar-lein gan ddibynnu ar a ydych chi'n sefyll etholiad y cynrychiolwyr academaidd neu un o'r rolau eraill sydd ar gael erbyn 4pm ddydd Llun 9 Hydref. Os mai pleidleisio yw'r cyfan rydych chi am ei wneud, cewch wneud hynny ar ApAber neu drwy ddefnyddio'r ddolen a gaiff ei he-bostio atoch rhwng dydd Mercher 18 Hydref a dydd Sul 22 Hydref.

Os hoffech chi fwy o gyngor neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

Eich prifysgol chi yw hi felly ffurfiwch ei dyfodol. Mae eich llais chi'n bwysig!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576