Beth yw hwn?
Digwyddiad mae mudiadau'n eu cynnal bob blwyddyn yw Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i sicrhau bod aelodau'n rhoi eu barn ar weithgareddau, safbwyntiau gwleidyddol a mwy!
Pwy all fynychu?
Mae pob myfyriwr cofrestredig yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr a gallant fynychu, siarad a phleidleisio mewn CCB.
Dim ond gyda 100 o fyfyrwyr yn yr ystafell y gall CCB ddigwydd.
Byddwn yn cofrestru pawb gan ddefnyddio'ch CerdynAber – felly dewch â'ch un chi i brofi eich bod chi'n fyfyriwr!
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i'n holl fyfyrwyr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â hygyrchedd, neu os oes angen unrhyw ddogfennau'r CCB ar ffurf benodol, rhowch wybod i ni!
Pa iaith fydd yn cael ei siarad?
Yn ystod y CCB, cewch ddewis siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg!
Bydd cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg yn ystod y cyfarfod drwy wasanaeth ffôn gynadledda felly dewch â'ch ffôn.
Bydd y gwasanaeth hwn yn defnyddio rhif 03 na fydd yn costio mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02 a bydd yn cyfri at unrhyw funudau cynhwysol.
Beth sy'n digwydd yn ystod CCB?
· Cewch adroddiad llawn o weithgareddau'r Ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am lywodraethu'r Undeb. Mae hwn yn cynnwys cymeradwyo ein cyfrifoldebau a'n haelodaethau.
· Dadlau a phleidleisio ar gyflwyniadau gan fyfyrwyr eraill i wella Aber. Enw'r rhain yw “Syniadau” ac os cânt eu pasio, byddant yn rhan o'n gwaith am y 3 blynedd nesaf.
Beth sydd i'w dadlau?
Rydym wedi cael 7 syniad gan fyfyrwyr i'w cynnig i'r CCB eleni:
· Gofalwch am Droseddeg, Peidiwch â'n cau ni allan
· Dwi am fynd i'r gampfa ar benwythnosau
· Ymestyn Cyfnod Arholiadau yn Ionawr
· Toiledau i Bawb
· GwaithAber 15 awr
· Polisi Dwyieithrwydd
· Dydyn ni ddim yn fodlon goddef anghyfleuster BUCS!
Cewch eu darllen i gyd yn eu cyfanrwydd yma.
Sut mae cael gwybod mwy?
Gweler rhagor o wybodaeth ynglyn â chyfarfodydd fel hwn ar Llywio Aber ar ein gwefan.
Yno, cewch wybod mwy ynglyn â'r myfyrwyr sy'n eich cynrychioli chi mewn cyfarfodydd cyngor, rhannu Syniadau i'w dadlau y tro nesaf, darllen ein polisïau cyfredol a mwy.
Cofiwch fod ein drysau ar agor drwy'r amser ac mae croeso i chi anfon neges atom ni – felly peidiwch â bod ofn cysylltu os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os oes angen cymorth!