Polisi'r Undeb bellach yn realiti

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae'n braf iawn gennym gadarnhau bod un o bolisïau Cyngor yr Undeb bellach yn realiti!

Pasiwyd polisi yng nghyfarfod Cyngor yr Undeb a gynigiodd y dylai pobl sy'n newid rhywedd ar ôl y brifysgol neu'n penderfynu newid eu henw ar ôl graddio allu cael tystysgrif radd newydd a dylid bod proses i wneud hyn.

Gweler y polisi yma.

Cyflwynodd Llywydd, Lauren Marks, a Swyddog Lles yr Undeb eleni, Naomi Cutler, y polisi hwn yn ystod trafodaeth Pwyllgor Cymorth i Fyfyrwyr (PCF) ynghylch polisi Cydraddoldeb Traws. Cytunwyd y dylai'r pwyllgor weithredu ar hwn ac o ganlyniad, daeth y polisi hwn yn realiti.

Yng nghyfarfod olaf y flwyddyn PCF, cyhoeddwyd y byddai'r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion (SAACh) yn ail-gyflwyno tystysgrifau gradd os caiff y dystysgrif wreiddiol ei dychwelyd a bydd y myfyriwr yn darparu tystiolaeth o newid ei enw. Mae proses ffurfiol ar gyfer hyn wrthi'n cael ei datblygu.

Os bydd myfyriwr yn dymuno newid ei enw ar dystysgrif bresennol, y weithdrefn gyfredol yw defnyddio'r manylion cyswllt isod:

Ardystio a Thrawsgrifiadau

Ffôn: 01970 622354 / 622016
E-bost: aocstaff@aber.ac.uk

Mae Llywydd yr Undeb, Lauren Marks, wrth ei bod â'r fuddugoliaeth:

"Mae'n braf gweld y brifysgol yn ymrwymo'n gryf i'n myfyrwyr a'n graddedigion Traws. Eleni, gweithredodd Swyddogion yr Undeb ar bolisi pwysig Cyngor yr Undeb sy'n gwneud Aberystwyth yn brifysgol fwy cynhwysol a chefnogol, ac rydym yn falch bod y brifysgol wedi gweithredu ar ein hawgrymiadau mor gyflym. Nawr, gall ein myfyrwyr Traws yn enwedig deimlo bod Prifysgol Aberystwyth yn eu cefnogi'n fwy a'n bod ni wedi'u helpu ar y daith hon. Os oes gan unrhyw un gwestiynau am y broses, cysylltwch â mi ar undeb.llywydd@aber.ac.uk"

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576