Pam ymuno â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau?

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Os ydych chi am gael y profiad gorau tra byddwch yn y brifysgol, yna ymuno â chymdeithas neu glwb chwaraeon yw'r ateb heb amheuaeth!

Heb ymuno â chlwb chwaraeon, ni fyddai fy mywyd yn y brifysgol wedi bod hanner mor ddiddorol a bywiog! Mae'r ffrindiau a'r profiadau a ddaw yn sgil ymuno â chlwb yn elfen hanfodol o fywyd Aberystwyth! 

Mae bod yn rhan o deulu Tîm Aber yn eich darparu â nifer fawr o ddigwyddiadau y gallwch chi gyfranogi ynddyn nhw! Mae'r rhain yn cynnwys 'Nôl i Aber, Superteams, Rhyngolgampau a Rygbi 7-bob-ochr, yn ogystal â chystadlu yn BUCS bob dydd Mercher, gan gynrychioli Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. Mae'n hawdd ymuno!

Bydd yn hawdd i chi ganfod eich clwb neu gymdeithas yn Ffair y Glas, sef dau ddiwrnod o ymgyfarwyddo â bywyd Tîm Aber!

Gwnewch yn sicr nad ydych chi'n colli allan!

Jess

 

Ymuno a TimAberRhestr ChwaraeonRhestr Cymdeithasau

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576