Pam gwirfoddoli gyda UMAber?

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae UMAber yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli gydol y flwyddyn, y gallwch chi gyfranogi ynddyn nhw. 

Ond pam? dwi'n clywed chi'n gofyn. Wel, dyma restr gyflym o fy 5 prif reswm dros wirfoddoli yn Aberystwyth!

  1. Er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl! - Mae gan UMAber y Tîm A. Mae'r Tîm A yn helpu pobl gydol y flwyddyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond maent fwyaf amlwg yn ystod Wythnos y Glas. Felly, os ydych chi'n meddwi ac yn methu symud yn ystod wythnos y glas (peidiwch â gwneud hyn, dydyn ni ddim yn ei argymell) mae'r Tîm A yno i helpu. Os ydych chi'n mynd ar goll ar y campws yn ystod yr wythnos gyntaf dyngedfennol honno, a'ch bod yn gweld crys coch un o'r Tîm A, byddan nhw'n eich helpu i ganfod eich ffordd. Y ffordd orau i'w talu nhw'n ôl yw gyda gwên a llawenydd, ond gallech chi hefyd ymuno â'r Tîm A. Fel hynny, byddwch yn rhoi rhywbeth yn ôl i helpu myfyrwyr blinedig i gael eu traed danynt yn ystod cyfnod y Glas!
  2. Mae'n edrych yn wych ar eich CV - Pa well ffordd o gael swydd pan fyddwch chi'n graddio na gwneud rhywbeth sy'n helpu pobl eraill? Pam na fyddech chi am wneud hyn?! Unwaith y bydd ar eich CV, gall oriau gwirfoddol eich gwneud chi'n llawer mwy cyflogadwy a bydd pobl yn fwy tebygol o gynnig swyddi i chi! (yn anfoddus, does dim sicrwydd am swydd)
  3. Er mwyn gwneud y gymuned yn well fyth! - Mae ein cymuned fach yma yn Aber yn dibynnu ar bobl garedig fel chi sy'n fodlon mynd ati i helpu â chreu'r hud y tu ôl i'r llenni. Boed hynny'n helpu i gasglu ysbwriel ar y traethau neu wirfoddoli eich amser gyda 'Links' Urdd Sant Ioan, byddwch yn gwneud ein cymuned cymaint yn well!
  4. Er mwyn teimlo'n dda! - Pa well ffordd o deimlo'n dda na gwirfoddoli eich amser a gwneud i rywun wenu, dim ond drwy eu helpu nhw? Wedi'r cyfan, oes angen mwy o esboniad na hynny?
  5. Gallwch helpu i wneud clwb neu gymdeithas ffynnu! - Fel aelod o bwyllgor yma yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, byddwch yn gwirfoddoli eich amser i wneud rhywbeth gwych. Felly, os ydych chi'n sylwi bod pethau yn eich clwb neu gymdeithas yn mynd yn dda iawn, mae hynny oherwydd bod pobl anhygoel yn gwirfoddoli i helpu sicrhau'r llwyddiant hwnnw! (Gallwch hyd yn oed enwebu'r bobl hyn ar gyfer 'Gwobr Rydych chi'n Wych' os ydyn nhw'n anhygoel am yr hyn maen nhw'n ei wneud!)

A dyna nhw fy 5 uchaf. Wrth reswm, mae cymaint mwy, felly beth am ganfod rhesymau eraill dros wirfoddoli drwy roi cynnig arni. Mae'n gyfle i gael hwyl gyda ffrindiau, felly ymunwch heddiw! Gallaf addo i chi, byddwch yn cael teimlad cynnes braf, ac mae pawb yn hoffi hynny!

www.umaber.co.uk/gwirfoddoli

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576