Eleni, rydyn ni'n bwriadu gwneud Codi Arian a Rhoddi (RAG) ychydig yn wahanol yma yn UMAber drwy wneud y broses o benderfynu pa elusennau fyddwn ni'n eu cefnogi'n fwy agored. Byddwn yn cyflwyno dwy ffordd newydd y gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gwneud y penderfyniad hwn...
Rydyn ni'n lansio'r gyntaf heddiw drwy ofyn i chi am eich awgrymiadau ar gyfer elusennau rhanbarthol a lleol ddylai fod yn Elusen y Flwyddyn yr Undeb, a pham rydych chi'n credu dylai UMAber roi cymorth iddyn nhw. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen sydd i'w gweld yn nes ymlaen yn y ddogfen hon.
Byddwn yn datgelu'r ail mewn mwy o fanylder yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ond byddwn yn creu panel myfyrwyr i ddyrannu'r arian a godir ar sail yr hyn mae myfyrwyr eraill yn ei awgrymu. Y nod yw ein bod ni'n gwneud y llunio penderfyniadau'n fwy agored yn ogystal â chael mwy o effaith drwy roi symiau llai i elusennau ychwanegol.
Bydd Clybiau a Chymdeithasau sy'n angerddol ynglyn ag achosion penodol yn dal i fod yn gallu rhoi arian iddyn nhw fel sydd wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol, er y byddem yn annog myfyrwyr i gyd gefnogi ein Helusen y Flwyddyn.
Meddai ein Swyddog Cyfleoedd eleni Jess Williams:
"Dwi'n falch iawn eleni bod un o'r elusennau RAG mae'r Undeb yn codi arian ar ei chyfer yn cael ei dewis gan fyfyrwyr!
Yn y cyfnod sy'n arwain at fis RAG, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i bleidleisio dros yr elusen y bydden nhw'n dymuno codi arian ar ei chyfer!"
Gallwch gyflwyno eich awgrymiadau gan ddefnyddio'r ffurflen tu ol ir botwm isod, fydd yn parhau i fod ar agor tan ddydd Gwener 22ain Medi 2017.
Oes gennych chi awgrym ar gyfer Elusen y Flwyddyn?
Wedyn byddwn yn cwrdd i lunio rhestr fer o'r rhai mwyaf poblogaidd yn barod ar gyfer Ffair y Glas ar ddydd Llun 25ain a dydd Mawrth 26ain, lle bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu pleidleisio i benderfynu'r enillydd.
Byddwn yn datgelu'r enillydd drwy ein gwefan ac yn yr e-bost wythnosol.
Caiff mwy o wybodaeth ynglyn â phanel y myfyrwyr ei rhyddhau'n nes ymlaen yn y flwyddyn, ond gallwch ddefnyddio'r ffurflen uchod i ddatgan eich diddordeb mewn cyfranogi.