ORIAU CHWARAEON AM DDIM

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

O ganlyniad i'r Parth Chwaraeon ar ddydd Llun 13eg Tachwedd, ac mewn partneriaeth â'r ganolfan Chwaraeon, rydyn ni wedi llwyddo pennu'r 1200 awr sy'n weddill i'w dyrannu ar sail wythnosol er mwyn rhoi cymorth i'n clybiau am weddill y flwyddyn academaidd 2017-18. Bydd pob un o glybiau'r UM sy'n defnyddio cyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon yn rheolaidd ar gyfer ymarfer yn derbyn 8 wythnos o hyfforddiant yn ystod yr ail semester a 4 wythnos yn y trydydd semester am ddim, diolch i gyfraniad gwerthfawr y Brifysgol o oriau di-dâl. Bydd hyn yn dechrau ar ddydd Llun 22ain Ionawr, a dylai hynny ddarparu ar gyfer gofynion ein clybiau chwaraeon am weddill y flwyddyn o ran eu hanghenion hyfforddiant.

Mae hon yn FUDDUGOLIAETH enfawr i'r clybiau chwaraeon ar gyfer y flwyddyn academaidd hon; gallant nawr ganolbwyntio ar wario eu cyllid prin ar gosi safon eu cyfarpar a'u cyfleoedd hyfforddi er mwyn gwella eu clwb, yn hytrach na gorfod gwario ar logi lleoliadau.

Diolch o galon i Dîm Cyfleoedd yr UM a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol am eu holl ymdrechion mewn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y cyfnod hwn o newid. Gyda'r newyddion da yma wedi'i ychwanegu at y ffaith bod cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol wedi cael eu hadnewyddu ynghynt eleni, rydym wedi cymryd cam cyntaf anhygoel at wella chwaraeon i fyfyrwyr yn Aberystwyth eleni #gydangilyddyngryfach

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576