Wrth i ni ddynesu at y Nadolig, bydd rhai o adrannau a gwasanaethau UMAber ar agor dim ond ar oriau cyfyngedig rhwng diwedd y tymor a dechrau’r tymor nesaf.
Dyma restr fach o’r oriau agor yn ystod y Nadolig:
Adeilad a holl wasanaethau UMAber:
Ar gau rhwng 4pm ar yr 22 Rhagfyr a 9am ar yr 2 Ionawr.
Derbynfa ac Adran Gyllid UMAber:
Ar agor am oriau cyfyngedig (10am – 2pm) rhwng 18 – 22 Rhagfyr a 2 – 5 Ionawr.
Tîm cyfleoedd:
Ar gau rhwng y 15 Rhagfyr a’r 8 Ionawr.
Tîm cyfathrebu:
Ar gau rhwng y 15 Rhagfyr a’r 8 Ionawr.
Cynrychiolaeth a chymorth:
Ar gau rhwng y 15 Rhagfyr a’r 8 Ionawr.
Am gymorth brys, ewch i’r tudalennau cyngor ar wefan UMAber: www.umaber.co.uk/cyngor
Nadolig Llawen & blwyddyn newydd dda i chi gyd / Merry Christmas and a happy new year to you all.