Eleni, agorodd Undeb y Myfyrwyr awgrymiadau ar gyfer ei Elusen y Flwyddyn Codi a Rhoddi (RAG) yn yr wythnos a oedd yn arwain at y Glas.
Rydyn ni wedi cael mwy na 30 o awgrymiadau ac aeth y mwyaf poblogaidd at Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn ystod Ffair y Glas ddydd Llun 25 a dydd Mawrth 26 Medi.
Y pedwar olaf oedd Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Warchod Cacwn, Nawdd Nos Aberystwyth a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.
Ar ôl dau ddiwrnod o bleidleisio a 1885 o bleidleisiau, dewisodd y myfyrwyr yr Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid yn Elusen y Flwyddyn a chaiff hyd at draean o arian RAG a godir eleni.
Meddai Kate Thomas, un o'r myfyrwyr a awgrymodd yr Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid:
"Dwi mor falch bod yr Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid wedi cael ei dewis i fod ein helusen y flwyddyn. Ar ôl colli ffrind i ganser yn ystod fy arddegau, dwi'n gwybod cymaint mae'r elusen hon yn gallu helpu cleifion ifanc canser yn ogystal â'r teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan hwn. Dwi'n gobeithio bod modd i ni wneud ein gorau glas dros yr elusen eleni a chodi arian fel prifysgol i gefnogi eu gwaith. Mae canser yn beth ofnadwy i fyw gydag ef beth bynnag, ond mae angen cymaint o gefnogaeth ar y rheiny sy'n dioddef ag ef ar oedran mor bwysig, ac mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n hynod o anodd i ddarparu hynny."
Eleni, bydd yr Undeb yn rhannu ei gronfa Codi a Rhoddi (RAG) yn dri fel rhan o agor ei benderfyniad i'r myfyrwyr. Bydd traean o'r arian a godir yn mynd at Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid a ddewisiwyd gan fyfyrwyr, bydd traean arall yn mynd at yr Ymgyrch yn erbyn Byw'n Ddiflas a ddewisiwyd gan y Swyddogion Llawn Amser a bydd y traean olaf ar gael ar ffurf grantiau bach at elusennau lleol ddiwedd y flwyddyn. Byddwn ni'n datgelu'r broses hon yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gall timau chwaraeon a chymdeithasau gefnogi eu dewis elusennau o hyd drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian penodol.
Gweler canlyniadau llawn y bleidlais isod:
Elusen
|
Pleidleisiau Diwrnod 1
|
Pleidleisiau Diwrnod 2
|
Cyfanswm y pleidleisiau
|
Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid
|
727
|
197
|
924
|
Ymddiriedolaeth Warchod Cacwn
|
318
|
114
|
432
|
Nawdd Nos Aberystwyth
|
236
|
60
|
296
|
Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru
|
172
|
61
|
233
|
|
|
|
|
Cyfanswm
|
1453
|
432
|
1885
|