Yng nghanol mis Tachwedd, bydd y cyfarfod cyntaf llawer o Bwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr yn cael ei gynnal drwy'r adrannau, lle daw staff a chynrychiolwyr academaidd ynghyd i drafod adborth myfyrwyr ac i wella buddiannau academaidd holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Eleni, mae dros 75% o'r cynrychiolwyr etholedig, y ganran fwyaf erioed, wedi mynychu hyfforddiant eleni o'i chymharu â dim ond 42% llynedd. Mae'r holl gynrychiolwyr sy'n mynychu hyfforddiant a chyfarfodydd eu pwyllgorau ymgynghorol staff myfyrwyr yn cael tystysgrif a chaiff y rôl ei chynnwys ar eu Cofnod Cyrhaeddiad Addysg Uwch.
Mae'r bodlonrwydd â'r hyfforddiant yn uchel hefyd, yn rhannol yn sgil cyflwyno hyfforddiant byrrach newydd i gynrychiolwyr presennol a chasglu tudalennau gwerthuso'r hyfforddiant. Mae 93% o'r cynrychiolwyr a fynychodd yr hyfforddiant i ddechreuwyr a 94% o'r rheiny a fynychodd hyfforddiant y dychwelwyr yn fodlon ar y cyfan, a nodwyd bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol, yn llawn gwybodaeth, yn gefnogol ac yn glir.
Hefyd, mae'n braf gennym ni ddatgelu heddiw tudalen newydd ‘dod o hyd i'm cynrychiolydd’ ar ein gwefan lle gallwch chwilio am eich cynrychiolydd academaidd gan ddefnyddio eich athrofa neu adran. Yn ogystal â hyn, rydyn ni wrthi'n gweithio gyda Gwasanaethau Gwybodaeth ar nodwedd debyg fydd yn dangos eich cynrychiolydd ar ApAber.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn ni'n casglu ac yn dadansoddi cofnodion PYSMau drwy'r adrannau i ganfod tueddiadau. Byddwn ni hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr i gael adborth ar eu profiad o PYSMau fel rhan o adolygiad ehangach o system y cynrychiolwyr academaidd.
Meddai Emma Beenham, y Swyddog Materion Academaidd
Mae'n braf iawn gweld y nifer o gynrychiolwyr sydd wedi camu i'r adwy eleni i gynrychioli corff y myfyrwyr. Mae hyn yn dystiolaeth anhygoel o bwysigrwydd llais y myfyrwyr a'r gwahaniaeth gall myfyrwyr ei wneud. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda chynrychiolwyr a myfyrwyr i ddatblygu system y cynrychiolwyr academaidd yn ystod y misoedd nesaf.
I'r cynrychiolwyr sydd wedi, neu sydd ar fin mynd i'w PYSM cyntaf eleni, rydyn ni'n dymuno'n dda i chi a gobeithio byddwch chi'n teimlo bod modd i chi wneud gwahaniaeth yn eich adran. Os oes angen unrhyw beth arnoch chi yn ystod y misoedd nesaf, cofiwch fod ein drysau wastad ar agor ac mae croeso i chi anfon e-bost atom ni!