Manteision dwyieithrwydd - gweithio mewn undeb myfyrwyr dwyieithog yng Nghymru

Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Dwi methu credu pa mor gyflym mae amser yn hedfan a bu bron dwy flynedd ers i mi symud o Fanceinion i ymgymryd â rôl Prif Weithredwr UM Aber. Dwi wedi bod yn ymwneud ag undebau myfyrwyr fel swyddog rhwng 1997 a 2002 ac yna fel aelod o staff ers 2004. Pan ddes i Aber, roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi profi bron popeth roedd gan fywyd fel staff/swyddog mewn undeb myfyrwyr i’w gynnig. Fodd bynnag, y funud roedd hyd yn oed diddordeb gen i yn y swydd, roedd hi’n amlwg bod un profiad mawr newydd yn fy wynebu i pe bawn i’n llwyddiannus - dwyieithrwydd.

Os ydych chi wedi bod i Gymru, mae'n debyg eich bod chi’n meddwl am yr arwyddion dwyieithog diddorol ar y ffyrdd, a fyddwn i byth yn anghofio’r tro cyntaf cerddais i o gwmpas yr archfarchnad a meddwl fy mod i ar wyliau gan fod yr arwyddion yn bennaf yn Gymraeg. Ond doeddwn i ddim wedi ystyried byw gyda’r iaith (roeddwn i’n ofni’r troeon cyntaf roedd rhaid i mi ynganu fy nghyfeiriad Cymraeg) a doeddwn i ddim wedi ystyried gwir ystyr gweithio mewn amgylchedd dwyieithog.

Yn UMAber, rydyn ni’n falch o gyfathrebu popeth - a dwi’n golygu popeth (gan gynnwys e-byst i’r holl fyfyrwyr, pob ffurflen, pob holiadur, pob arolwg, negeseuon allan o'r swyddfa, gwefan lawn, posteri, ymgyrchoedd, arwyddion, pob cyhoeddiad ac enw, posteri a gwybodaeth pob clwb a chymdeithas) yn Gymraeg yn gyntaf ac yna’n Saesneg. A minnau’n dod o gefndir undebau myfyrwyr yn Lloegr, roedd hyn yn dipyn o sioc i'r system i ddechrau. Yng nghanol yr awydd newid ychydig ar y wefan neu ddechrau prosiect ymgynghori neu ymgyrch, yn sydyn byddwn i’n cofio na fyddai modd i mi fynd ati cyn sicrhau cyfieithu, neu sicrhau bod yr ymadrodd hwnnw’n gweithio’n Gymraeg hefyd. A dweud y gwir, roedd hyn yn eithaf rhwystredig i ddechrau i rywun digymell a thangiadol. Roeddwn i’n sicr yn credu yn yr hawl i astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli’r union hyn mae’n ei olygu.

Nawr, rhaid ystyried ambell beth ymarferol - mae angen i ni allu cyfieithu popeth ac mae cost ynghlwm wrth hynny, dwbl yr argraffu a chynnal dwy wefan. Byddai'n hawdd i rywun ddod i sefyllfa’r prif weithredwr ac ystyried lle gellid arbed arian yma, a gwnes i hynny i raddau mae’n debyg, a mynd i’r afael â heriau dwyieithrwydd, ond byddai hynny’n drueni. Mae gan ddwyieithrwydd fanteision ymarferol hefyd - rhaid cynllunio’r hyn sydd angen i chi ei gyflawni a’i greu yn fwy gofalus. Rhaid meddwl yn fwy gofalus am y neges rydych chi am ei hanfon ac yn gyffredinol, fel un sy’n hoffi malu awyr, mae’n dda ystyried sut mae bod yn fwy cryno. Ond wrth gwrs, mae mwy i ddwyieithrwydd na’i fanteision ymarferol - wrth gwrs mae'n ymwneud ag amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau, ond hefyd mae'n fraint wirioneddol ac yn bleser i mi allu byw a gweithio yn iaith gerddorol swynol y Gymraeg. Roeddwn i’n ddigon ffodus i allu anfon fy mab at feithrinfa Gymraeg wych ac mae’n braf iawn gweld faint o Gymraeg mae’n ei gwybod - dwi wrth fy modd yn ei wylio’n chwarae yn y parc a chlywed amrywiaeth fywiog iaith.

Ym mis Medi y llynedd, lansiom ni strategaeth newydd ar gyfer 2017-20 ac roedd hi’n amlwg o’r cychwyn cyntaf y byddai’r Gymraeg neu ddwyieithrwydd yn rhan ohoni fel gwerth - mewn gwirionedd fe ymddangosodd fel: Y Gymraeg - yn amlwg. Edrychais i am ffordd y gallwn i yn bersonol fynd â’r gwerth hwnnw ymhellach yn hytrach na dim ond ymdrin ag ef o ran gofyniad ymarferol. Dyna pryd darganfyddais i fod llwyth o ddewisiadau o ran dosbarthiadau Cymraeg sgyrsiol am bris gwych. Ces i sgwrs gyda’n Swyddog Datblygu’r Undeb a roddodd ganiatâd i mi gael amser i fynychu cwrs Cymraeg sgyrsiol dwys i ddechreuwyr ac a gytunodd i neilltuo amser ac arian er mwyn i aelodau o'r tîm wneud yr un peth. Nawr mae 3 aelod o staff a 2 swyddog yn dysgu Cymraeg am 2 i 4 awr yr wythnos. Rydyn ni gyd yn ei fwynhau’n fawr a gobeithio bydd y nifer hwn yn parhau i dyfu!

Dwi'n hynod o falch o weithio mewn mudiad sy'n gweithredu’n ddwyieithog ac yn edrych ymlaen at helpu i gefnogi hawl pobl Cymru i fyw ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel. Dwi wedi ymrwymo i weithio i sicrhau bod UMAber yn cefnogi ac yn dathlu’r Gymraeg a gobeithio un diwrnod yn y dyfodol, bydda i’n siarad Cymraeg hefyd!

 

Trish McGrath

Prif Weithredwr UMAber

Comments

Ni wnaed unrhyw sylw. Mewngofnodwch i roi sylw.