Dyma chi wedi derbyn eich cynnig i ddod i Aberystwyth, ac mae'n bur debyg y byddwch chi'n teimlo'n hynod o gyffrous. Ond ynghyd â'r cyffro daw'r straen o bacio, felly dyma rai o'n hintiau handi...
- Peidiwch ag anghofio pacio dogfennau allweddol, yn arbennig os ydych chi am weithio gynted y byddwch yn cyrraedd... mae'r rhain yn cynnwys dogfennau adnabyddiaeth, rhif yswiriant cenedlaethol, manylion banc a dogfennau sy'n perthyn i gael eich derbyn yn y brifysgol, llety a chyllid myfyrwyr.
- Dewch yn barod i dorri'r iâ... gall fod yn rhywbeth mor syml â gêm fwrdd neu becyn o gardiau, ond gall dod â rhywbeth i ddechrau sgwrs fod yn ffordd wych o wneud ffrindiau.
- Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi bacio popeth ar unwaith... mae'r campws o fewn pellter cerdded cyfleus i ganol y dref, ac mae yma amryw o siopau sy'n gwerthu'r pethau hanfodol fyddwch chi eu hangen.
- Arbedwch arian ar brynu llyfr coginio i fyfyrwyr gan ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ei le... mae dwsinau o safleoedd sy'n cynnwys ryseitiau am ddim ond i chi glicio botwm.
- Mae'n bwysig i chi baratoi ar gyfer cadw'n iach... mae'n bwysig i chi edrych ar ôl eich hun, felly mae'n bosib y byddwch chi am ddod â nwyddau atal cenhedlu gyda chi yn ogystal â moddion ar gyfer annwyd a'r ffliw.
- Dewch â dillad gyda chi'n barod ar gyfer achlysur gwisg ffansi... boed yn wisg wedi'i gwneud yn barod neu'n ddeunydd ar gyfer creu un, gall dod â hyn gyda chi arbed y broblem o orfod mynd i'r dref ar frys i ddewis gwisg.
Dim ond rhai awgrymiadau yw' rhain; am fwy o ysbrydoliaeth ewch i'r rhestr Buzzfeed hon, ond anwybyddwch y rhan am lyfrau coginio! ;)
Cofiwch fod amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi gwrdd â phobl newydd cyn cyrraedd, boed hynny'n ddod o hyd i gyd-letywr neu drwy ymuno â'n Grwp Facebook.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cofiwch fod Undeb y Myfyrwyr yn darparu gwasanaeth cynghori cyfrinachol ac annibynnol am ddim, ac maen nhw'n fodlon ateb unrhyw ymholiadau a all fod gennych chi ynglyn â symud i'r brifysgol ond i chi anfon e-bost at undeb.cyngor@aber.ac.uk.