Yn olaf yr wythnos hon, byddwn ni'n edrych yn fanwl ar y rolau sy'n canolbwyntio ar grwpiau penodol o fyfyrwyr:
Swyddog LHDTC+
Mae'r swyddog hwn yn gweithio gyda myfyrwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws*, cwîar neu fyfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio i hunaniaeth rhyweddol neu rywioldeb lleiafrifol arall.
Gyda chymdeithas myfyrwyr fywiog i gysylltu â hi, bydd grym gennych chi i drefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd i gefnogi myfyrwyr LHDTC+. Chwefror yw'r mis Hanes LHDT+ blynyddol y byddwch chi'n gallu teilwra'ch cynlluniau ar ei gyfer. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwyr a swyddogion LHDTC+ eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynadleddau LHDT+ neu Traws UCM.
*Dim ond y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel rhywun LHDTC+ all sefyll i fod yn swyddog LHDTC+ neu bleidleisio drosto.
Swyddog y Menywod
Mae Swyddog y Merched yn gyfrifol am hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol drwy'r Brifysgol. Mae cynllun i adfywio cymdeithas y ffeministiaid ar y gweill, a'r canolbwynt eleni yw annog menywod i sefyll yn etholiadau'r clybiau a'r cymdeithasau, felly rydyn ni'n gobeithio y bydd un o fenywod anhygoel Aber yn camu i'r adwy ac yn ein helpu ni i frwydro dros gydraddoldeb. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwragedd a swyddogion menywod eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynhadledd Menywod UCM.
*Dim ond y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel menyw all sefyll i fod yn Swyddog y Menywod neu bleidleisio drosto.
Swyddog Myfyrwyr Anabl
Mae Prifysgol Aber yn cynnig lleoliad hamddenol, unigryw ar lan y môr i fyfyrwyr ag anableddau. Mae swyddog y myfyrwyr anabl yn gyfrifol am hyrwyddo cymorth priodol i bob myfyriwr ag anableddau, a bod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr sydd am roi adborth ar y bylchau mewn hygyrchedd ar y campws. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwyr a swyddogion myfyrwyr ag anableddau eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynhadledd Myfyrwyr Anabl UCM.
*Dim ond y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel rhywun anabl all sefyll i fod yn Swyddog y Myfyrwyr Anabl neu bleidleisio drosto.
Swyddog Myfyrwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae swyddog myfyrwyr CALlE yn cynrychioli amrywiaeth eang o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a diwylliannau ethnig, boed hynny o'r DU, yr UE neu'n rhyngwladol. Mae rhwydwaith CALlE wthi'n cael ei greu felly mae'r potensial i drefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda myfyrwyr CALlE eraill yn tyfu. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwyr a swyddogion CALlE eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynhadledd Myfyrwyr CALlE UCM.
*Dim ond y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel rhywun CALlE all sefyll i fod yn Swyddog y Myfyrwyr CALlE neu bleidleisio drosto.
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae Aber yn denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd, ac mae Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol yn sicrhau eu llais yn yr Undeb. Gan weithio gyda grwpiau myfyrwyr a'r swyddfa ryngwladol ar sesiynau croeso, digwyddiadau ac ymgyrchoedd i fyfyrwyr rhyngwladol, mae'r rôl hon yn wych i unrhyw un sy'n hoffi cwrdd â phob math o wahanol bobl. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwyr a swyddogion rhyngwladol eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynhadledd Myfyrwyr Rhyngwladol UCM.
Dim ond y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel myfyrwyr rhyngwladol all sefyll i fod yn Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol neu bleidleisio drosto.
Swyddog y Myfyrwyr Hyn
I unrhyw un sy'n dechrau, neu'n dychwelyd at fywyd fel myfyriwr ychydig yn ddiweddarach, mae Swyddog y Myfyrwyr Hyn gerllaw i sicrhau bod yr Undeb yn gweithio i chi. Mae gwrando ar brofiadau myfyrwyr hyn a'u deall i gyd yn rhan graidd o gynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd ar gyfer cynulleidfa wahanol. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwyr a swyddogion hyn eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynhadledd Myfyrwyr Hyn UCM.
Swyddog y Myfyrwyr Ôl-raddedig
Mae swyddog y myfyrwyr ôl-raddedig yn cydlynu'r cymorth a'r cysylltiad rhwng yr Undeb ac ôl-raddedigion. Gan ganolbwyntio ar greu cymuned i ôl-raddedigion, maen nhw'n gweithio gydag Ysgol y Graddedigion a swyddogion eraill i ennyn diddordeb ôl-raddedigion a'u gwahodd i fod yn rhan o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd yn ogystal â'r Undeb cyfan. Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gyda myfyrwyr a swyddogion ôl-raddedigion eraill o bob rhan o'r DU yng Nghynhadledd Ôl-raddedigion UCM.
*Dim ond y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel myfyrwyr ôl-raddedig, wedi'i gofrestru ar gwrs heb gredydau, all sefyll i fod yn Swyddog y Myfyrwyr Ôl-raddedig neu bleidleisio drosto.
Swyddog Campws Llanbadarn
Mae'r rôl hon yn cefnogi ac yn hyrwyddo mynediad cyfartal i addysg ac adnoddau ar gampws Llanbadarn.
Swyddog Campws Mawrisiws
Rôl swyddog campws Mawrisiws yw cydlynu digwyddiadau a chymorth i fyfyrwyr ar ein campws tramor. Gan gadw mewn cysylltiad â'r Undeb, bydd y swyddog yn gweithio gyda ni a staff Profiad Myfyrwyr Mawrisiws i gydlynu digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i fyfyrwyr a bod yn gyswllt ar gyfer darparu adborth a syniadau.
Mae sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli gan UMAber yn hollbwysig i ni. Felly dyna pam mai'r rolau sy'n cynrychioli grwpiau penodol ac, yn hollbwysig, grwpiau rhyddhad yw rhai o'r rolau pwysicaf yn yr etholiadau.
Mae'r cynrychiolwyr hyn yn gweithio gydol y flwyddyn i sicrhau bod y campysau'n gynhwysol a bod lleisiau a gaiff eu tangynrychioli'n draddodiadol yn cael ei glywed.
Os ydych chi am sefyll am unrhyw un o'r rolau uchod, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch mmd11@aber.ac.uk.