Goleuni ar – Cyfleoedd i Fyfyrwyr

Heddiw, byddwn ni'n edrych ar rôl y Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr, sy'n sicrhau cynrychiolaeth ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Heddiw, byddwn ni'n edrych ar rôl y Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr, sy'n sicrhau cynrychiolaeth ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. Byddwch yn cynnal cyswllt rheolaidd â phwyllgorau'r clybiau a chymdeithasau, boed hynny'n wyneb-yn-wyneb, drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol, er mwyn deall barn myfyrwyr yn well.

Gan weithio gyda staff, byddwch yn helpu i gydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i gynyddu cyfranogiad a sicrhau eu bod yn weithgareddau ffyniannus dan arweiniad myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parthau Chwaraeon a Chymdeithasau, cynorthwyo gyda'r Wythnos Weithgareddau, Mis RAG, Rhyngolgampau, Superteams a Rygbi 7-bob-ochr Aber

Yn olaf, byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd ag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol i hybu datblygiad clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Os ydych chi am sefyll i fod yn Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576