Ffair Tai UMAber 2017

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gyda dim ond wythnos i fynd tan Ffair Tai UMAber 2017, roeddem ni'n meddwl ei bod hi'n amser i ni gyhoeddi pwy fydd yn mynychu'r digwyddiad eleni er mwyn i chi fedru paratoi cwestiynau (os oes ganddo chi rhai).

Mae’r Ffair Tai UMAber  yn gyfle anhygoel i chi ddechrau deialog gyda landlordiaid ac asiantau gosod yn yr ardal. Dim ond darparwyr sydd wedi cofrestru gyda Rent Smart Wales sy'n cael gwahoddiad i fynychu, ac mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael trwy gydol y dydd i roi cyngor ac arweiniad ar gytundebau tenantiaeth, biliau, diogelwch, arbed ynni a llawer iawn mwy.

Pwrpas y ffair yw rhoi yr holl wybodaeth i chi ac atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn i chi ddechrau chwilio am eich cartref newydd yn y brifysgol.

Gan ein bod ni'n nesáu at yr adeg o'r flwyddyn pan fydd llawer ohonoch yn dechrau chwilio am dy newydd, mae staff a swyddogion UMAber wedi llunio canllaw tai fydd ar gael i chi bigo fyny o'r Ffair Dai, i'ch helpu gyda'r dasg o ddod o hyd i le i fyw! Mae rhestr wirio tai defnyddiol yn y canllaw hwn hefyd.

Y peth pwysicaf i'w gofio yw ... peidiwch â rhuthro i mewn i unrhyw beth, mae digon o amser.

Os ydych chi angen cyngor, neu os ydych chi am i ni fwrw golwg dros eich cytundeb, yna cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori UMAber ar undeb.cyngor@aber.ac.uk.


Bydd ein Ffair Dai yn cyflwwyno’r holl fudiadau fydd yn helpu chi i ddewis y lle iawn i fyw.

Dydd Iau, 23 o Dachwedd 10:00yb – 4:00yp
@ Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

 


Digwyddiad Facebook

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576