Datganiad ynglyn a ffioedd dysgu

Ar 11 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ganiatáu i brifysgolion gynyddu eu ffioedd dysgu i £9,295 y flwyddyn, yn unol â chwyddiant. Mae addysg yng Nghymru yn aml wedi bod sawl cam o flaen y system gyfatebol yn Lloegr, gyda ffioedd a grantiau blaengar, ac rydym yn siomedig iawn i weld y cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Ar 11 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ganiatáu i brifysgolion gynyddu eu ffioedd dysgu i £9,295 y flwyddyn, yn unol â chwyddiant. Mae addysg yng Nghymru yn aml wedi bod sawl cam o flaen y system gyfatebol yn Lloegr, gyda ffioedd a grantiau blaengar, ac rydym yn siomedig iawn i weld y cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud.

Nid yw Swyddogion Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cefnogi'r cynnydd hwn mewn ffioedd, a chredwn yn gryf na ddylai myfyrwyr ddioeddef yn sgil yr agenda lymder. Rydym yn sylweddoli bod pob cyllideb dan bwysedd, ond yn y pen draw, mae penderfyniadau a wneir ynglyn â gwariant ar addysg yng Nghymru'n perthyn i Lywodraeth Cymru.

Efallai bod cynnydd mewn ffioedd yn anorfod, ond rydym am gael sicrwydd gan y Brifysgol y caiff yr arian ychwanegol a ddaw yn sgil y cynnydd hwn mewn ffioedd ei wario ar brosiectau sy'n mynd i fod o fudd uniongyrchol i gorff y myfyrwyr. Rydym yn gofyn am dryloywder llawn o ran ble mae'r arian hwn yn cael ei wario, ac mae'r Is-ganghellor, Elizabeth Treasure, wedi ein hannog i barhau i ofyn cwestiynau ynglyn â'r newid hwn. Er nad ydym o blaid y cynnydd mewn ffioedd, mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael y cyfle gorau posib i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar sut caiff eu harian ei wario.

Rydym hefyd yn bryderus y bydd cynnydd parhaus mewn ffioedd yn darbwyllo myfyrwyr rhag manteisio ar gyfleoedd megis cynllun Blwyddyn mewn Cyflogaeth, neu gall greu mwy o straen i'r rheiny sy'n ystyried cymryd amser allan o addysg am resymau iechyd neu bersonol. Yn ogystal â sefydlu amryw o systemau cymorth ar gyfer y bobl hyn, byddwn hefyd yn parhau i ymladd dros y gallu i rewi ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried cymryd blwyddyn allan o'u hastudiaethau academaidd.

Bydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn parhau i ymgyrchu dros fuddiannau myfyrwyr, ynghyd â chanolbwyntio ar sicrhau'r fargen orau i'n myfyrwyr i gyd, beth bynnag fo'u sefyllfa ariannol.

#AmddiffynAddysg #TorrwchYCostau

Emma Beenham – Swyddog Materion Academaidd
Bruce Wight – Swyddog Datblygu'r Undeb

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576