Cyngor y Glas gan Molly

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae wedi cyrraedd! Ac ymlaciwch. Mae hyn o ddifrif, fy hoff adeg o'r flwyddyn (nid dim ond oherwydd bod fy mhenblwydd i WASTAD yn ystod wythnos y glas)! Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd ffrindiau'n dod yn ffrindiau gorau, cewch lwyth o stwff am ddim yn ffair y glas ac mae'r diodydd o amgylch y dref yn ymddangos yn hynod o rad...

Felly er mwyn eich helpu i gael y profiadau gorau, dwi wedi llunio rhestr o hintiau handi ar gyfer beth i'w wneud yn ystod cyfnod y glas a'r cyfnod sy'n dilyn hynny!

Gwneud ffrindiau!

1. Cadwch eich drws ar agor - mae pobl wastad yn dweud hyn, ond mae'n gallu gwneud cryn wahaniaeth. Gall hyn ymddangos yn heriol i rai, ond cyn belled â'ch bod yn hyderus, gallwch oroesi'r pythefnos hwn - byddwch yn dod drwyddo'n gryfach o'r herwydd!

2. Dylech goginio o leiaf un peth bob dydd, tua chanol dydd - mae'n eich gorfodi i dreulio amser yn y gegin, felly mae'n gyfle i siarad â phobl ac mae gennych chi rywbeth i'w wneud (byddwch hefyd yn cael rhywbeth i'w fwyta allan o'r profiad - mae pawb ar ei ennill!)

3. Ceisiwch gwrdd ag o leiaf un person o'ch cwrs cyn bydd darlithoedd yn dechrau - fydd byth rhaid i chi eistedd ar eich pen eich hun eto!

Beth i'w wneud yn ystod wythnos y glas (ac ar ôl hynny)

1. Byddwch yn ofalus beth fyddwch chi'n ei yfed - a bod yn onest, dydw i ddim yn cofio fy wythnos y glas gyntaf (na'r ail un) ond weithiau rhaid i ni dderbyn nad yw bod mor feddw â hynny'n dderbyniol. Gwyliwch faint rydych chi'n ei yfed yn ystod yr wythnos ac edrychwch ar ôl eich hun, cofiwch fwyta ar ôl noson allan ac yfwch ddigonedd o ddwr!

2. Bwytwch yn dda - dwi'n sylweddoli, yn achos y rhan fwyaf o bobl, mai dyma'r tro cyntaf i chi fyw oddi cartref, ac mae hynny'n gallu bod yn brofiad brawychus, ond gwnewch yn sicr eich bod yn bwyta'n dda gydol yr wythnos (dydy hynny ddim yn golygu pot-noodle bob dydd). Gallwch brynu bwyd da'n rhad, felly ewch draw i Morrisons ar y bws, a phrynwch dipyn o lysiau ar gyfer yr oergell (a bwytewch nhw!)

3. Bydd ffliw'r glas yn sicr o effeithio arnoch chi - byddwch mewn amgylchedd sy'n meithrin bacteria, felly mynnwch ddigon o ibuprofen ac edrychwch ar ôl eich cyrff; po fwyaf fyddwch chi'n ei yfed, gwaethaf yn y byd fyddwch chi'n teimlo. Coeliwch fi. Mi wnes i hynny am 6 mis. Dwi'n credu i mi ddisgyn i lefel newydd o farwolaeth y flwyddyn honno.

 

Dwi'n cofio cyfnod y glas fel un o'r adegau gorau, a dwi am i chi gael hynny hefyd, felly ewch amdani a mwynhewch eich hunain. Boed hynny'n gwrdd â phobl newydd a chael diod, neu yrru allan i'r Borth i gael pysgod a sglodion ar draeth gwahanol, mae yma rywbeth i bawb yma yn Aber. Yn bersonol, dydw i ddim yn gallu aros i gael fy ffrindiau'n ôl, oherwydd mae'r hyn maen nhw'n ddweud yn wir, mae'r ffrindiau fyddwch chi'n eu gwneud yma'n ffrindiau am oes. Ac mae'n bosib na wnewch chi fyth adael. Felly byddwch mor gyfforddus â phosib!

 

Mwyhewch y flwyddyn gyfeillion!

Llawer o gariad <3

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576