Diolch i bawb a fynychodd cyfarfod cyntaf y flwyddyn y Cyngor! Daeth cyfanswm o 55 o fyfyrwyr i ddadlau ac i basio Syniadau.
Da iawn i James Cordel am gynnal ei gyfarfod cyntaf yn Gadeirydd yr Undeb.
Rhoddodd y cyfarfod lawer o gyfleoedd i bawb i gael mewnbwn ar y testunau a drafodwyd a, gobeithio, i ddysgu ychydig mwy am sut gall yr Undeb helpu myfyrwyr i ymgyrchu dros newid!
Dirprwy Gadeirydd
Llongyfarchiadau i Rhiannon Perrett! Cafodd ein Swyddog RAG presennol ei hethol i rôl y Dirprwy Gadeirydd yn ystod y cyfarfod a bydd yn cynorthwyo gweddill y cyfarfodydd eleni.
Syniadau
Cafodd 6 Syniad eu troi'n Bolisi'r Undeb - beth sy'n digwydd nawr?
Gwaredu Gwellt (Matthew Poulton) - Byddwn ni'n lobïo bariau a chaffis ar y campws a'r tu hwnt iddo i leihau eu defnydd o wellt, sydd yn aml yn cael eu defnyddio am funudau ond yn cymryd 200 o flynyddoedd i bydru.
Rydyn ni eisiau Llywydd (Bruce Gardiner) - O'r flwyddyn academaidd 2018/19, teitl rôl y Swyddog Datblygu'r Undeb fydd Llywydd unwaith eto.
Mae parthau'n strwythurau caeth; beth am ymestyn eu haelodaeth? (Bruce Wight) - Bydd y Parthau'n agored i bob myfyriwr nawr. Byddwn ni'n cadw rhestr o'r aelodaethau blaenorol yn y gwaith papur er mwyn i'r parthau fesur presenoldeb y grwp.
FfRhA? Dim Diolch (Emma Beenham) - Sicrhau bod yr Undeb yn ymgynghori ar y FfRhA ac yn lobïo am opsiwn amgen gan Lywodraeth Cymru os daw un, yn ogystal â gwelliannau sy'n gysylltiedig yn benodol ag addysg gyfrwng-Cymraeg.
Disgleiria Diamond (Emma Beenham) - Sicrhau bod yr Undeb yn cefnogi Adolygiad Diamond o gynhaliaeth ariannol AU yng Nghymru ac yn parhau i weithio gydag UCM Cymru i lobïo am welliannau i'r argymhellion er mwyn gwella ei effaith yn fwy.
Campws Cysylltiedig Ar-lein (Bruce Wight) - Ar ôl cyfarfodydd cynhyrchiol â'r Brifysgol, byddwn ni'n lobïo am WiFi am ddim drwy'r holl gampysau, gan ddechrau ar gampws Penglais a thargedu ardaloedd sy'n cael problemau o ran WiFi. Os bydd yn llwyddiannus, y gobaith yw, wrth weithio gyda'r Cyngor Sir, y bydd modd i ni ei gael yn y dref hefyd fel ambell dref brifysgol arall.
Cewch ddarllen ein holl bolisïau cyfredol yma.
Beth sydd nesaf?
Parthau
A ninnau newydd basio'r polisi i ddileu cyfyngiadau aelodaeth o'r Parthau, hoffem ni estyn gwahoddiad cynnes i bob myfyriwr ddod i'r rownd nesaf o barthau!
Parthau yw'r prif lefydd i Swyddogion Llawn Amser adrodd eu gweithgareddau i fyfyrwyr sydd â diddordeb ynddynt neu sy'n rhan ohonynt, ac maen nhw'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr hynny drafod materion a syniadau sy'n berthnasol iddynt.
Felly dewch draw i'r Parth perthnasol:
- Os ydych chi am wybod yr hyn mae eich swyddogion wedi bod yn ei wneud
- Os ydych chi am gael adborth, profiadau neu awgrymiadau gan fyfyrwyr eraill ar destun penodol
- Os hoffech chi gael cymorth gan fyfyrwyr eraill ar gyfer digwyddiad neu brosiect
- Os hoffech chi rwydweithio â myfyrwyr eraill sy'n cyfranogi!
Chwaraeon a Chymdeithasau
|
Academaidd
|
Llesiant
|
Diwylliant Cymreig
|
13 Tachwedd 2017
|
14 Tachwedd 2017
|
15 Tachwedd 2017
|
16 Tachwedd 2017
|
Cewch gyflwyno testun i'w drafod yma.
CCB
Yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gall UNRHYW FYFYRIWR fynychu a phleidleisio.
Mae hynny'n golygu, os oes gennych chi syniad mawr ar gyfer gwella profiad myfyrwyr Aber a hoffech i bob myfyriwr roi eu barn a phleidleisio ar y Syniad, y CCB yw'r lle perffaith i chi.
Cewch gyflwyno Syniadau ar gyfer y CCB yma tan ddydd Llun 20 Tachwedd 12pm.
Yn ystod y CCB, byddwn hefyd:
- Yn derbyn adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar weithgareddau UMPA ers y CCB blaenorol
- Yn derbyn cyfrifon UMPA ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol
- Yn cymeradwyo penodiad yr archwilwyr
- Yn cymeradwyo’r rhestr o ymaelodaethau UMPA
- Yn rhoi cyfle i chi holi'r Ymddiriedolwyr
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, os hoffech gael cymorth â Syniad neu os oes gennych unrhyw adborth, mae croeso i chi gysylltu â Chris Parry, Cydlynydd Llais Myfyrwyr, ar crp12@aber.ac.uk.