Heddiw, mae staff UMAber wedi bod yn y Ganolfan Chwaraeon yn siarad â chi ynglyn â phwy sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'ch cyfnod yn Aber.
Heddiw, mae staff UMAber wedi bod yn y Ganolfan Chwaraeon yn siarad â chi ynglyn â phwy sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'ch cyfnod yn Aber.
Ydy eich tiwtor personol, goruchwyliwr eich traethawd estynedig, darlithydd ysbrydoledig yn haeddu gwybod eu bod nhw'n un o sêr Aber?
Beth am y staff cyfeillgar wrth y dderbynfa sydd yno drwy'r amser i'ch helpu, neu dechnegydd y lab sy'n sicrhau bod popeth yn berffaith barod ar gyfer eich prawf ymarferol?
Os ydy rhywun wedi'ch helpu i wireddu eich amcanion, gwneud i chi garu eich darlithoedd 9am neu roi cymorth i chi i fanteisio ar eich cyfnod yn Aber, dwedwch wrthym ni ar https://www.umaber.co.uk/cymerwchran/gwobraudysgu/ .
Cewch enwebu aelodau staff a hyd yn oed myfyrwyr tan 12 Mawrth, ac os caiff eich enwebiad ei gynnwys ar y rhestr fer, cewch wahoddiad i'n Cinio Gwobrau ar 5 Mai.
Ewch ar-lein a dwedwch wrthym ni pwy sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu rhagoriaeth - dyma'ch cyfle chi i dynnu sylw at y bobl arbennig sy'n gwneud i Aber fod yn anhygoel. #UMAberyndathlu