Beth yw'r Wythnos Weithgareddau?

Methu aros tan Wythnos y Glas? Ydych chi am gymryd rhan gynted â phosib? Oes diddordeb gennych chi yn y clybiau y gallwch ymuno â nhw yn Aberystwyth? Mae'r Wythnos Weithgareddau yn berffaith i chi!

bannerwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

*Yma i gofrestru ar gyfer yr Wythnos Weithgareddau? Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gwestai er mwyn talu. I wneud hyn, cliciwch fan yma.*

 

Beth yw'r Wythnos Weithgareddau?

Methu aros tan Wythnos y Glas? Ydych chi am gymryd rhan gynted â phosib? Oes diddordeb gennych chi yn y clybiau y gallwch ymuno â nhw yn Aberystwyth? Mae'r Wythnos Weithgareddau yn berffaith i chi! Mae ein digwyddiad pedwar-diwrnod blynyddol yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yr ystod anferth o chwaraeon a chymdeithasau sydd ar gael yn Aberystwyth: pedwar diwrnod o chwaraeon, cymdeithasu ac yn bwysicaf oll, sbort!


Mae'r Wythnos Weithgareddau a gynhelir rhwng y 18fed a'r 22ain Medi yn cynnig mynediad cynnar i'ch llety, dau bryd o fwyd y dydd (dydyn ni ddim eisiau i chi lwgu!) Mae hyn ynghyd ag ystod anhygoel o weithgareddau i roi cynnig arnynt, yn ogystal â digwyddiadau min-nos i'ch helpu i ddod i adnabod y dref a fydd yn gartref i chi am y 3 blynedd nesaf! Felly os ydych chi'n hoffi chwaraeon, â diddordeb mewn rhyw gymdeithas arbennig, neu'n awyddus i roi cynnig ar bethau newydd, mae'r Wythnos Weithgareddau'n gwneud y trawsnewidiad i fywyd prifysgol ychydig yn haws. Gallwch ddechrau Wythnos y Glas gyda chriw o ffrindiau, ac eisoes yn gwybod ble i brynu'r pysgod a sglodion, neu beint gorau yn y dref!

Mae’r Wythnos Weithgareddau yn cael ei chynnal gan y Swyddfa Weithgareddau / TîmAber Undeb y Myfyrwyr, ac mae croeso i bob myfyriwr sy'n dod i'r Brifysgol. Bydd y digwyddiad blynyddol pedwar diwrnod yn rhoi cyfle i gael blas ar yr ystod anferth o weithgareddau sydd ar gael yma yn Aber – mae'r pwyslais bob amser ar hwyl a sbri. Rydyn ni'n cynnig rhaglen gosmopolitan, fesul diwrnod, o ddigwyddiadau'r bore a'r prynhawn. Y cyfan sydd ei angen yw rhoi cynnig ar ba bynnag chwaraeon neu weithgareddau sy'n denu eich diddordeb. Mae'r sesiynau'n barhaus felly gwnewch beth bynnag rydych am ei wneud, pryd bynnag rydych am ei wneud; cewch annibyniaeth dan arweiniad!

Cewch gyfle i sefydlu eich hun yn Aberystwyth mewn awyrgylch hamddenol; mae'n gyfle i chi setlo'n gynnar. Cewch gyfle i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, dod i adnabod Aber, a dod i arfer â'ch rhyddid; hyn i gyd gydag ychydig o help gan ein clybiau, ddydd a nos!  Rydym yma i sicrhau bod eich gyrfa brifysgol yn dechrau mewn steil! 

Mae lleoliad Aberystwyth yn cynnig bron iawn bob math o chwaraeon y gallwch eu dychmygu! Cyfranogwch; gallwn eich sicrhau y bydd yn anhygoel!

Yn cynnwys…

  • Mynediad cynnar i'ch llety
  • Dau bryd o fwyd y dydd - fel nad ydych yn llwgu: brecwast a chinio min-nos! 
  • Rhaglen gynhwysfawr o sesiynau dyddiol i ddewis o'u plith
  • Cewch ddylunio a theilwra eich wythnos eich hun
  • Gallwch gyfnewid chwaraeon neu gymdeithasau, neu gadw at un
  • Mwynhewch Aber i'r eithaf gyda'n hadloniant min-nos
  • Dechreuwch Wythnos y Glas ar nodyn uchel gyda llwyth o ffrindiau
  • Bydd hyfforddwyr profiadol ar gael i'ch helpu ddydd a nos
  • Mae yma gyfleusterau gwych ar gyfer ystod eang o chwaraeon a chymdeithasau
  • Darperir trafnidiaeth i bob sesiwn
  • Mae'r nifer o leoedd yn gyfyngedig, felly cyntaf i'r felin... (gwnewch eich cais nawr!)
  • Dros 60 o weithgareddau amrywiol, gan gynnwys: Syrffio, Lacrosse, Ambiwlans Sant Ioan, Ail-greu'r Canol-oesoedd, Pêl-rwyd, Cic-focsio a llawer, llawer mwy! Mae yna rywbeth i bawb!

Gwybodaeth Bellach

Caiff yr amserlen ar gyfer yr Wythnos Weithgareddau eleni ei hanfon allan i chi ar 2ail Medi a byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau gynted y byddwn wedi derbyn eich cais ar-lein a'ch taliad.

Pris Wythnos Weithgareddau 2016: £100

Noder os gwelwch yn dda:  NID yw cost llety wedi ei gynnwys yn y pris. Caiff y gost yma ei hychwanegu at eich ffi am lety ar ddiwedd y semester cyntaf.

Mae Wythnos Weithgareddau 2016 yn agored i fyfyrwyr y flwyddyn YN UNIG, unrhyw rhyw, os ydych am gymryd rhan mewn chwaraeon neu beidio! Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer yr Wythnos Weithgareddau, felly ymgeisiwch gynted â phosib.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â'n Swyddog Gweithgareddau, Jasmine Cross (undeb.gweithgareddau@aber.ac.uk) neu e-bostiwch Gavin Allen, Gweinyddwr Chwaraeon gaa@aber.ac.uk.

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576