Mae'n deg dweud bod Addysg Uwch (AU) ar lefel genedlaethol yn mynd drwy gyfnod o ansicrwydd ar hyn o bryd, ac mae cryn lawer o newidiadau wedi neu ar fin digwydd, fydd yn cael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr yn y DU. Ond beth yn union sy'n digwydd?
(Byddwch yn amyneddgar; mae'r esboniad yn un hir....)
Mae'n deg dweud bod Addysg Uwch (AU) ar lefel genedlaethol yn mynd drwy gyfnod o ansicrwydd ar hyn o bryd, ac mae cryn lawer o newidiadau wedi neu ar fin digwydd, fydd yn cael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr yn y DU. Ond beth yn union sy'n digwydd?
Yn Nhachwedd 2015, rhyddhaodd Llywodraeth y DU ei Bapur Gwyrdd ar Addysg Uwch, oedd yn argymell nifer o newidiadau i'r AU rydyn ni'n gyfarwydd â hi. Roedd yn cynnwys, ymysg argymhellion eraill:
- Cyflwyno Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA), sy'n "fesur o ragoriaeth" ar gyfer prifysgolion, ac os ydynt yn cyrraedd lefelau penodol o'r FfRhA, caiff prifysgolion godi eu ffioedd.
- Uno Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl) a'r Swyddfa er Mynediad Teg (SMT) i ffurfiol Swyddfa Myfyrwyr (SM), fyddai'n gweithredu fel rheoleiddiwr ar gyfer y sector a "hyrwyddwr myfyrwyr" - Nid yw ar hyn o bryd (ac nid oes cynlluniau ar y gweill) yn cynnwys lle wedi'i neilltuo ar gyfer myfyriwr.
- Ei gwneud yn haws i sefydliadau cystadleuol agor eu drysau a chael yr hawl i ddyfarnu graddau.
- Cwestiynu atebolrwydd a thrylowyedd undebau myfyrwyr (mewn ymateb, lansiodd UCM eu hymgyrch #CaruUM, oedd yn dangos effaith UM o amgylch y DU, ac mae'r arolygaeth o UM wedi lleihau mewn adroddiadau diweddarach gan y llywodraeth)
Doedd y Papur Gwyrdd ond megis dechrau o ran ad-drefnu AU, ac roedd yn ffurfio sail ar gyfer Papur Gwyn AU. Rhyddhawyd y Papur Gwyn ym Mai 2016; dilynwyd hwn gan Fil Addysg Uwch ac Ymchwil (AU) a gyhoeddwyd gan y Frenhines yn ei haraith ddiweddaraf. Yn ffodus, nid yw'r Papur Gwyn ond yn cynnwys 3 pharagraff ynglyn â mân newidiadau mewn UM. Mae hefyd yn argymell cryn lawer o'r hyn y sonir amdano yn y Papur Gwyrdd, yn arbennig y pwyntiau uchod. O'r Bil AU, bwriedir i'r FfRhA gael ei gyflwyno yn Lloegr yn unig ar y dechrau, felly mae'n aneglur sut bydd hyn yn effeithio ar brifysgolion yn y dyfodol agos, ac os bydd prifysgolion Cymru'n optio i mewn a chodi eu ffioedd. Bydd y SM yn disodli CCAUC a'r SMT, a bydd yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau o gyflwyno'r hawl i ddyfarnu graddau, a byddant yn cynnal cofrestr o ddarparwyr, fel y gall myfyrwyr weld ffioedd yr holl ddarparwyr a.y.b. Bydd gan y SM hefyd bwerau i bennu arian i sefydliadau, a heb le wedi'i neilltuo ar gyfer myfyriwr, mae lefel y pwer fydd gan y SM yn fater o gryn bryder. Ond ble ydyn ni nawr yn hyn o beth? Cafodd y Bil AU ei ail ddarlleniad ar 19eg Gorffennaf 2016 ac mae nawr yn mynd ger bron y pwyllgor, a fydd yn adrodd yn ôl eto ym mis Hydref. Er gwaethaf y ffaith na estynnwyd gwahoddiad i fyfyrwyr UCM na'r ASA i roi tystiolaeth ar y Bil yn ystod y pwyllgor, llwyddodd gweithredu gan UCM i ddwyn sylw at yr angen am fewnbwn gan fyfyrwyr, ac yn y pen draw, cafwyd gwahoddiad i roi tystiolaeth, ynghyd â Phrif Weithredwr yr ASA ar ddydd Iau 8fed Medi. Ymddengys fod y dystiolaeth hon wedi cael ei hanwybyddu gan y pwyllgor; aeth y pwyllgor ati i bleidleisio os dylai myfyrwyr eistedd ar Fwrdd y SM, a phleidleisiwyd yn erbyn hyn. Felly'r sefyllfa yw nad oes gan fyfyrwyr le ar y Bwrdd sy'n honni bod yn "hyrwyddwr myfyrwyr".
Ar 23ain Mehefin 2016, pleidleisiodd y cyhoedd ym Mhrydain mewn refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac mae wedi dod yn eglur ers hynny bod deilliannau'r penderfyniad i adael yn weddol anhysbys. Er nad yw canlyniad y refferendwm yr hyn oedd pawb eisiau, bydd yn effeithio ar bawb, yn arbennig pobl ifanc a myfyrwyr, wrth i ganlyniadau Brexit ddod i'r amlwg. Ond beth mae Brexit yn ei olygu i fyfyrwyr? Yn y bon, dydyn ni ddim yn gwybod i sicrwydd. Gallai fod potensial am newid/cynnydd mewn ffioedd unwaith y bydd Prydain yn gadael yr UE yn swyddogol yn achos myfyrwyr o Brydain sydd eisiau astudio dramor. Gan ddibynnu ar sut bydd y cyd-drafodaethau'n mynd, gallai myfyrwyr Prydeinig fod angen visa i astudio dramor. Serch hynny, mae Erasmus+ wedi sicrhau myfyrwyr na fydd unrhyw newidiadau i'w cynlluniau yn y tymor byr. Bydd holl drigolion yr UE yn dal i dderbyn cyllid ar ffurf benthyciadau hyd ddiwedd eu cyrsiau, fel yn achos bwrsariaethau presennol, serch hynny mae'n bosib y bydd prifysgolion unigol yn edrych ar y posibilrwydd o newid eu rheolau cymhwyster eu hunain o hyn ymlaen. Mae amryw o gyrsiau a phrifysgolion wedi derbyn cyllid sylweddol gan yr UE yn y gorffennol, yn arbennig ar gyfer ymchwil, a gallai newidiadau i hyn gael effaith enfawr ar ymarferoldeb astudiaeth ôl-raddedig a'r ystod o gyrsiau y gellir eu cynnig ym mhrifysgolion y DU. Ni ddylai myfyrwyr o'r UE fod yn ofnus nad oes bellach croeso iddynt astudio yma chwaith, yn arbennig yn Aberystwyth. Rhyddhaodd Prifysgol Aberystwyth ddatganiad yn dilyn Brexit ynglyn â'r effeithiau arnom ni'n benodol, y gellir ei ddarllen yma, ac mae gan y brifysgol wefan a thudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml yma. Bydd effeithiau Brexit i'w teimlo gan holl brifysgolion y DU a'u hundebau myfyrwyr, ond rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd yn gadarn yn y cyfnod hwn o newid er mwyn sicrhau cynnydd.
Yn ogystal â'r holl newidiadau mewn AU sy'n digwydd ledled y DU, mae Cymru'n mynd drwy ei ddiwygiad ei hun mewn AU, yn arbennig parthed cyllido. Ym Mawrth 2016, cyhoeddodd yr Athro Ellen Hazelkorn Adroddiad Hazelkorn, sef adolygiad i addysg ôl-16 yng Nghymru. Ymysg argymhellion eraill, mae'r adroddiad yn awgrymu y dylid disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) â'r Awdurdod Addysg Drydyddol (AAD) - Oherwydd y talfyriad "TEA" yn Saesneg, mae'n bosib y caiff hyn ei newid i "Cyngor Addysg Drydyddol" (CAD). Byddai hyn yn golygu uno cyfrifoldebau rheoleiddio AU ac addysg bellach (AB) dan y teitl "ôl-16", gan greu ymagwedd gyfannol at addysg ôl-16, a thriniaeth gyfartal o bob sector - AU, AB a phrentisiaethau. Nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi ymateb i Adroddiad Hazelkorn felly mae'r deilliannau yn dal i fod yn aneglur.
Yn ogystal ag Adroddiad Hazelkorn, mae Adolygiad Diamond hefyd wedi cael ei gynnal yng Nghymru. Mae Adolygiad Diamond yn rhoi ystyriaeth i Gyllido Addysg Uwch a Threfniannau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Ian Diamond, a dechreuodd ar y gwaith yn Ebrill 2014. Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol gael ei ryddhau ar 27ain Medi eleni, ac i fod yn berffaith onest, dydyn ni ddim yn sicr ynglyn â'r newidiadau gaiff eu hargymell. Mae gan yr adolygiad gylch gorchwyl sy'n cynnwys cyllido addysg uwch, ond bydd hefyd yn rhoi sylw i ehangu mynediad i AU, cyllido astudiaeth ran amser ac ôl-raddedig, a sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor AU yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad cyfamserol o Adolygiad Diamond yn Rhagfyr 2015, a gellir ei ddarllen yma. Er bod argymhellion yr adroddiad yn anhysbys ar hyn o bryd, mae'n eglur y caiff newid ei wneud i'r system gyllido AU gyfredol yng Nghymru. Serch hynny, rydym yn gobeithio y bydd Adolygiad Diamond yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gwir gost addysg a'r costau byw mae myfyrwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn y brifysgol.
Byddaf yn eich darparu â'r diweddaraf ynglyn â'r materion hyn cynted y caiff gwybodaeth ei rhyddhau, felly gwyliwch allan am fwy o wybodaeth yn dod yn fuan. Os oes unrhyw un yn bryderus ynglyn â deilliannau'r newidiadau hyn, neu'n awyddus i wybod mwy am y newidiadau mewn AU ar draws y wlad, gallwch gysylltu â fi am fwy o wybodaeth.