Mae gennym 200 a mwy o gynrychiolwyr academaidd, felly hoffen ni wybod eich barn ar y system gynrychiolaeth academaidd yma yn Aberystwyth.
Dyma'ch cyfle chi i ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl. Mae eich barn yn bwysig i ni, a byddwn yn defnyddio'r hyn y byddwch yn ei ddweud yn yr arolwg hwn i wneud gwelliannau i'r ffordd y mae'r system gynrychiolaeth academaidd yn gweithio.
Rydym yn gofyn i gynrychiolwyr academaidd, myfyrwyr a staff gwblhau arolygon sydd bron yn union yr un fath, fel y gallwn gymharu barn pob grwp a gwneud newidiadau sy'n addas ar gyfer pawb sy'n gysylltiedig.
I roi eich adborth i ni a chael cyfle i ennill eich dewis taleb werth £20, cwblhewch yr Arolwg 'Barnwch eich Cynrychiolydd' heddiw!
Noder fod y dolenni isod wedi teilwra ar gyfer y grwpiau uniongyrchol felly cliciwch ar y ddolen berthnasol i chi:
Adborth myfyriwr
Adborth cynrychiolydd academaidd