BLE MAEN NHW NAWR? – LAUREN MARKS

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Rydyn ni'n dweud bod sefyll yn Etholiadau'r Swyddogion yn gyfle gwych a all sbarduno'ch gyrfa ond at ble yn union mae hyn yn arwain?

Yn hytrach na'n credu ni, bob dydd yr wythnos hon byddwn ni'n edrych ar brofiadau swyddogion blaenorol yn ogystal â'r hyn maen nhw wedi mynd ati i'w gyflawni ers gadael.

Cofiwch os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, peidiwch â bod ofn e-bostio mmd11@aber.ac.uk am sgwrs. Gall hwn fod yn gam hollbwysig i'ch helpu chi i benderfynu.

Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n swyddog gwych, awgrymwch ef/hi nawr ar www.umaber.co.uk/etholiadau/awgrymumyfyriwr.

Mae'r cyfnod sefyll yn cau am hanner-nos, ddydd Llun 26 Chwefror.


Yn gyntaf, cewn glywed gan Lauren Marks a chafodd ei ethol fel Swyddog Addysg yn 2015 – 2016 ac yna fel Llywydd UMAber yn 2016 – 2017. Mae Lauren bellach yn Ôl-Fyfyriwr ym mhrifysgol UCL yn Llundain.

 

Pam ddewisest ti'r rôl honno?

Swyddog Addysg - Roeddwn yn angerddol ynglyn â gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae'r brifysgol yn cefnogi myfyrwyr yn academaidd, sut y cynhaliwyd cyrsiau, sut roedd y brifysgol yn buddsoddi mewn cyfleusterau ac adnoddau, ac roeddwn eisiau sicrhau bod hawliau academaidd myfyrwyr yn cael eu cynrychioli'n deg. Roedd rôl y Swyddog Addysg yn ymddangos fel un heriol a fyddai'n golygu llawer o ymroddiad ac 'roeddwn y awyddus i ymgymryd â rhywbeth fyddai'n golygu llawer o waith caled ac ymroddiad, yn ogystal â rhywbeth yr oeddwn yn angerddol yn ei gylch.

Llywydd - roeddwn i eisiau helpu i ddatblygu'r undeb ei hun, a helpu i lywio UMAber tuag at yr hyn y mae myfyrwyr yn Aber ei eisiau yn wirioneddol, ac ailsefydlu'r cyfeiriad a'r ffocws. Roedd yn amser cyffrous ond heriol iawn i UMAber, ac roeddwn am wneud yn siwr bod grym y tu ôl i'r gwaith yr oedd angen ei wneud y flwyddyn honno. Roeddwn hefyd eisiau cyfranogi yn y broses o gynrychioli myfyrwyr ar amrywiaeth o lefelau yn y brifysgol a chwarae rhan fwy gweithredol ym mudiad y myfyrwyr yn genedlaethol. Hynny yn hytrach na chael fy nghyfyngu i un cylch gorchwyl penodol, er mwyn creu effaith mewn ystod o feysydd profiad myfyriwr.

 

Beth yw'r cof gorau sydd gen ti o sefyll etholiad a dy amser fel Swyddog?

Sefyll etholiad - Gallu siarad â phobl na fyddent fel arall o bosib wedi ymwneud â'r undeb, ymgysylltu â hwy, a'u cynnwys nhw mewn ymgyrchoedd. Y rhan fwyaf buddiol oedd, fel yr unig ddynes a oedd yn sefyll ar gyfer y Llywyddiaeth yn fy mlwyddyn, gallu ymgysylltu â menywod eraill, a dod o hyd i ffyrdd o helpu i gael mwy o fenywod i ymgymryd â rolau arweinyddiaeth o fewn UMAber.

 

Bod yn Swyddog - mae popeth mor werth chweil; byddwch chi'n cael cymaint allan o'r profiad ag rydych chi'n ei ddodi i mewn wrth fod yn swyddog. Felly po fwyaf o ymdrech fyddwch chi'n ei gwneud, mwyaf yn y byd o foddhad fyddwch chi'n ei gael. Rwy'n credu mai'r atgof gorau oedd lansio'r ymgyrch #SanauStefan a dod â myfyrwyr a'r gymuned at ei gilydd ar ôl amser anodd iawn. Hefyd gweithio tuag at amcan cyffredin o ledaenu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a helpu pobl i rannu eu profiadau a chynnig cymorth.

 

Beth wyt ti wedi'i ddysgu o sefyll etholiad a bod yn Swyddog Llawn-amser?

Dysgais, na waeth pa mor drefnus ydych chi neu faint o baratoi ydych chi wedi'i wneud ar gyfer rhywbeth, bydd rhwystr annisgwyl bob amser i'w oresgyn a rhywbeth nad oeddech chi wedi meddwl amdano. Gwnaeth hyn fi'n well am ddatrys problemau a hefyd fy ngwneud yn wydn . Mae bod yn swyddog hefyd yn eich gorfodi i ddysgu llawer am sut mae Addysg Uwch yng Nghymru ac yn y DU yn gweithio, sydd wedi fy helpu i gael rolau yn y sector AU ar ôl i mi adael Aber.

 

Pa gyngor sydd gen ti i unrhyw un sy’n ystyried sefyll yn yr etholiadau?

Nid wyf yn golygu swnio fel hysbyseb Nike pan ddywedaf hyn, ond; jyst gwnewch e! Does gennych chi ddim byd i'w golli, a chymaint i'w ennill; os ydych chi ond yn sefyll, rydych chi'n dysgu pethau newydd amdanoch chi eich hun drwy'r amser ac yn llythrennol, gallwch newid bywydau pobl. Felly os oes gennych chi syniadau ac rydych chi'n angerddol, yna peidiwch â meddwl ddwywaith a chynigiwch eich enw; byddwch yn hyderus a siaradwch â chymaint o bobl â phosib.

 

Pe gallet ti droi’r cloc yn ôl, fyddet ti’n gwneud y cyfan eto? Neu beth fyddet ti’n ei wneud yn wahanol?

Byddwn yn sicr yn gwneud y cyfan eto! Yr unig beth y byddwn i'n ei wneud yn wahanol yw tyfu 6 braich ychwanegol, fel y byddwn yn gallu gwneud cymaint mwy o bethau yn yr amser oedd gen i!

 

Pum gair i grynhoi'r cyfan?

Newid bywyd. Gwerth chweil. Ysbrydoledig. Hwyl. Heriol.

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576