BLE MAEN NHW NAWR? GRACE BURTON

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Rydyn ni'n dweud bod sefyll yn Etholiadau'r Swyddogion yn gyfle gwych a all sbarduno'ch gyrfa ond at ble yn union mae hyn yn arwain?

Yn hytrach na'n credu ni, bob dydd yr wythnos hon byddwn ni'n edrych ar brofiadau swyddogion blaenorol yn ogystal â'r hyn maen nhw wedi mynd ati i'w gyflawni ers gadael.

Cofiwch os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, peidiwch â bod ofn e-bostio mmd11@aber.ac.uk am sgwrs. Gall hwn fod yn gam hollbwysig i'ch helpu chi i benderfynu.

Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n swyddog gwych, awgrymwch ef/hi nawr ar www.umaber.co.uk/etholiadau/awgrymumyfyriwr.

Mae'r cyfnod sefyll yn cau am hanner-nos, ddydd Llun 26 Chwefror.


Heddiw bydd ein sylw ni ar Grace Burton a gafodd ei hethol yn Swyddog Addysg yn 2013-14 ac eto yn 2014-15. Ar hyn o bryd, Grace yw Cynorthwy-ydd Gweithredol y Prif Weithredwr a Sefydlydd Benefex sy'n darparu atebion buddion gweithwyr i rai o gyflogwyr mwyaf y wlad.

 

Pam dewisoch chi'r rôl honno?

Roeddwn i'n meddwl ei bod yn rhan annatod o'r holl reswm roeddwn ni'n bodoli, sef cael addysg roedden ni gyd yn falch ohoni. Fel myfyriwr, gwelais i lawer o gyfleoedd i greu newid ar fy nghwrs ac ar draws y brifysgol felly roeddwn i am wneud popeth o fewn fy ngallu.

 

Beth yw eich hoff atgofion o sefyll yr etholiad ac o’ch cyfnod chi fel Swyddog Llawn Amser?

Bod fel lladd nadroedd yn gosod posteri ganol nos gyda'r tîm diogelwch yn cadw llygad barcud arnaf! O ran bod yn swyddog, roeddwn i'n dwli ar yr wythnos raddio ac wythnos y glas am eu bod nhw'n gyfnodau mor gyffrous mewn ffyrdd gwahanol. Ers i mi symud ymlaen o UMAber, mae'n braf gweld y gwaith a wnes i ar ôl-raddedigion sy'n dysgu'n dwyn ffrwyth! J

 

Beth ydych chi wedi’i ddysgu gan sefyll etholiad a bod yn Swyddog Llawn Amser?

Gwydnwch a gwerth gwaith caled! Wrth ystyried, dwi wedi dysgu peidio â chymryd fy hun o ddifrif gymaint. Hoffwn i fod wedi dysgu hynny'n gynharach.

 

Pa gyngor sydd gennych chi i unrhyw un sy’n ystyried sefyll yr etholiadau?

Meddyliwch yn ofalus am y ffordd o fyw! Dwi'n siwr mae ffyrdd i chi beidio â gadael iddi eich difetha, ond ni lwyddais i eu canfod nhw! O, a bydd tâp gorilla yn gwneud i'ch posteri fod yn gadarn â'r graig.

 

Pe gallech chi droi’r cloc yn ôl, fuasech chi’n gwneud y cyfan eto? Neu beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?

Buaswn, a dwi'n credu buaswn i'n gwneud popeth yn wahanol. Hoffwn i fod wedi gwybod sut i fod yn llai difrifol yn y rôl; roedd hi'n teimlo fel petai pwysau'r byd ar fy ysgwyddau ar brydiau. Hoffwn i fod wedi'i fwynhau'n fwy!

 

Pe gallech chi grynhoi eich profiadau mewn pum gair, beth fyddai'r rheiny?

Ff*cin gwallgof a blydi blinedig!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576