Y tawelwch cyn y storm

Felly, dyma blog rhif 2! Mae hwn yn mynd i fod yn fwy am sut brofiad yw bod yn y swydd, ers i mi ddechrau yng Ngorffennaf tan nawr. Mae'n ddigon naturiol i rywun sy'n dechrau mewn swydd newydd i deimlo fod pethau braidd yn frawychus; doedd cychwyn yn fy rôl fel Swyddog Gweithgareddau ddim gwahanol!

Activitiesjasmineofficerblogwelshwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Felly, dyma blog rhif 2! Mae hwn yn mynd i fod yn fwy am sut brofiad yw bod yn y swydd, ers i mi ddechrau yng Ngorffennaf tan nawr. Mae'n ddigon naturiol i rywun sy'n dechrau mewn swydd newydd i deimlo fod pethau braidd yn frawychus; doedd cychwyn yn fy rôl fel Swyddog Gweithgareddau ddim gwahanol!

Yn fy wythnos gyntaf yn y swydd, teithiais i a'r tîm (Lauren – Llywydd, Ryan – Swyddog Addysg, Naomi – Swyddog Lles a Rhun – Llywydd UMCA a Swyddog Materion Cymreig) i Lerpwl ar gyfer Cynhadledd SU16. Dyma'r tro cyntaf i mi dreulio amser yng nghwmni fy nghyd-weithwyr newydd. Roedd yn ffordd dda o dorri'r iâ a chwrdd â'n gilydd go iawn am y tro cyntaf!

Roedd y gynhadledd ei hun yn lle dychrynllyd, gyda llwyth o bobl oedd yn gwybod beth yn hollol oedden nhw'n siarad yn ei gylch, ac wedyn dyma fi... roeddwn i'n teimlo'n wirioneddol fel petai gen i ddim syniad beth oeddwn i'n ei wneud. Wrth i'r gynhadledd fynd yn ei blaen, roeddwn i'n dechrau dysgu pethau a gweld beth allwn ni ei wneud gyda fy mlwyddyn, a dyna pryd dechreuodd pethau fynd yn gyffrous.

Roedd y profiadau gefais yn Lerpwl o fudd i mi pan ddechreuais i yn y rôl, pan eisteddais i wrth fy nesg. Yn naturiol, roeddwn i'n dal i fod yn ansicr o ran beth i'w wneud, beth oeddwn i'n cael ei wneud a pwy ddylwn i eu holi ynglyn ag unrhyw bethau oedd gen i ar fy meddwl. Roedd y rhain i gyd yn bethau cyffredin o ddydd i ddydd y dysgais amdanynt, pethau oedd yn gwneud y swydd yn eglurach.

Gan symud ymlaen i fis Medi, rwyf wedi llwyddo i ddatblygu perthynas â phobl a ffurfio syniadau o amgylch gofynion y rôl. Rydw i a'r tîm yn cynnal noson gwis bob wythnos, ac rydym wrth ein bodd â'r gyfres newydd o Bake Off, felly rydyn ni bellach yn gryfach fel tîm, ac rydyn ni hefyd yn ffrindiau erbyn hyn! O ran fy nhasgau o ddydd i ddydd (e-byst!) Dwi'n gwybod beth i'w wneud a sut i ateb mwy o gwestiynau nag oeddwn i pan ddechreuais i yn y swydd!

Ar hyn o bryd, mae pawb yn canolbwyntio'u hegni ar yr Wythnos Weithgareddau ac Wythnos y Glas - mae'r naill a'r llall yn dra gwahanol i unrhyw beth dwi wedi ei wneud ers i mi ddechrau - bydd yn gyfle i mi gwrdd â'r myfyrwyr a gweld beth sydd gennych chi i gyd i'w gynnig!

Dyna'r cyfan am y tro; dwi'n gobeithio ysgrifennu blog tua chanol yr Wythnos Weithgareddau/Wythnos y Glas (os oes gen i amser!) Felly tan hynny, mwynhewch yr haf, ac edrychaf ymlaen at yr adeg pan fydd y myfyrwyr i gyd yn dychwelyd!

Jasmine Cross ON   Dymunwch bob lwc i mi!

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576