Pam ddylech chi fynychu'r Wythnos Weithgareddau?

Flog am fy mhrofiad o'r Wythnos Weithgareddau yn fy mlwyddyn gyntaf.

Activitiesjasmineofficerblogwelshwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio
Jasmine Cross, Swyddog Gweithgareddau, UMAber, 16-17

Dyma fy mlog cyntaf erioed, felly gobeithio na fydd yn rhy ddiflas! Mae'n mynd i fod yn flog am fy mhrofiad o'r Wythnos Weithgareddau yn fy mlwyddyn gyntaf, sef fy mhrofiad cyntaf o fywyd yn Aber, sy'n gweddu i fy mlog cyntaf!

Dwi'n wreiddiol o Essex, oedd yn golygu fod gen i dipyn o daith i Aber, felly penderfynais deithio draw ar y diwrnod cynt ac aros dros-nos cyn yr Wythnos Chwaraeon (fel y cyfeiriwyd ati bryd hynny - cyn iddi ddatblygu'n Wythnos Weithgareddau). Pan ddihunais yn y bore, roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn ynglyn â dechrau bywyd newydd a gwneud ffrindiau newydd; bu rhaid i mi ofyn i fy rhieni adael, gan fy mod i'n awyddus i gwrdd â'r bobl yn fy fflat!

Roedd symud i mewn yn brofiad swrrealaidd, ynghyd â gadael fy nghartref a dechrau bywyd newydd ar ochr arall y wlad. Es ati i ddad-bacio'r pethau hanfodol (roedd gen i GRYN LAWER o stwff - felly wnes i ddim dad-bacio popeth). Fe'm croesawyd i a'm cyd-letywyr gan y cynorthwywyr, ac i ffwrdd a ni i'r Undeb am fwyd cyn i'r noson ddechrau. Ar ôl cwis anffurfiol i dorri'r iâ, agorwyd y drysau, gan ryddhau'r clybiau chwaraeon! Roedd yn noson anhygoel, gan fod y clybiau i gyd mor groesawus ac yn awyddus i'n "dangos ni o amgylch y dref". Gwnes gymaint o ffrindiau'r noson honno; yn sicr un o'r atgofion gorau sydd gen i o fod yn y Brifysgol!

Drannoeth, rhaid cyfaddef fod y rhan fwyaf ohonom yn teimlo braidd yn fregus, ond llwyddodd brecwast yn TaMed i wella'r sefyllfa. Ar ôl brecwast, i ffwrdd a ni at risiau'r Undeb, lle'r oedd y Glas-fyfyrwyr i gyd wedi ymgynnull, ac aeth pawb i gyfeiriad y chwaraeon oedd o ddiddordeb iddyn nhw. Ar fy niwrnod cyntaf, rhoddais gynnig ar Bêl-fasged a chlwb rhedeg yr Harriers, a gallaf ddweud yn onest fy mod i wedi blino'n lân - roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i wedi rhedeg holl arfordir Cymru! Roedd yn ffordd wych o gwrdd â phobl a dysgu am y lle roeddwn i'n mynd i alw'n gartref am y 3 blynedd nesaf.  Ar yr ail ddiwrnod, es i sesiynau Nofio a Pholo-dwr - rhaid fy mod i wedi mwynhau fy hun, oherwydd yn fy ail flwyddyn roeddwn i'n Ysgrifennydd Cymdeithasol y clwb, gan symud ymlaen i fod yn Llywydd yn fy nhrydedd flwyddyn. Rhaid eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn iawn i mi ddal ati dros y blynyddoedd!

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd yn amser am Wythnos y Glas, a bu fy nghyd-letywyr a fi'n helpu'r Glas-fyfyrwyr i symud i mewn, fel pe baem ni wedi bod yn Aber ers blynyddoedd ac yn gwybod popeth am y lle. Roedd yn gymorth mawr i wneud ffrindiau a dweud wrthyn nhw am ein profiadau ni o'r wythnos flaenorol.

Mae'r Wythnos Chwaraeon yn fy mlwyddyn gyntaf ymysg yr wythnosau gorau o fy mywyd yn y brifysgol, a buaswn yn ei argymell yn gryf i unrhyw fyfyrwyr sy'n dod i Aber am y tro cyntaf.

Eleni, fi sy'n trefnu'r digwyddiad, felly rydw i'n gobeithio y gallaf ei wneud mor bleserus i'r rheiny sy'n mynychu'r Wythnos Weithgareddau eleni ag yr oedd y profiad i mi yn fy mlwyddyn gyntaf.

Wythnos Weithgareddau 2016 yw eich cyfle i brofi gweithgareddau Aberystwyth cyn i unrhyw un arall gyrraedd y Brifysgol. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576