Neges hwyl fawr: Swyddog Lles

Un o'r pethau gorau, eto'r anoddaf, ynglyn â'r rôl yw cael y rhyddid i gyflwyno eich syniadau a'u gwireddu nhw. Does dim byd gwell na gweithio'n galed ar rywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch ac yna gweld deilliannau cadarnhaol.

naomiofficerblogwelshwelfarewelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Beth wyt ti wedi ei fwynhau am fod yn Swyddog UMAber?

Dwi wedi mwynhau'r rhyddid a'r cyfrifoldeb sy'n rhan o fod yn Swyddog Llawn Amser; rhoddir gwerth ar lais a barn swyddogion myfyrwyr, ac mae boddhad i'w gael o eistedd mewn cyfarfod â staff y Brifysgol a chael dylanwad sylweddol dros ddyfodol y Brifysgol. Un o'r pethau gorau, eto'r anoddaf, ynglyn â'r rôl yw cael y rhyddid i gyflwyno eich syniadau a'u gwireddu nhw. Does dim byd gwell na gweithio'n galed ar rywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch ac yna gweld deilliannau cadarnhaol.

Dwi hefyd wedi mwynhau cynrychioli llais myfyrwyr ar lefel genedlaethol drwy UCM; mynychu gwahanol gynadleddau a chyfranogi mewn gwleidyddiaeth myfyrwyr. Mae'n fyd gwahanol nad oeddwn i erioed wedi dychmygu y buaswn i'n rhan ohono, ond o wneud hynny, dwi wedi dysgu cryn lawer ac wedi dylanwadu ar rai o'r materion allweddol sy'n ymwneud â myfyrwyr. Dwi hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â rhai pobl anhygoel a chlywed areithiau gan unigolion dylanwadol.

Beth yw dy 5 hoff atgof o’r flwyddyn?

  1. Yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf yn y rôl, mynychom gynhadledd SU16 UCM yn Lerpwl. Dyma'r profiad mwyaf anhygoel i mi ei gael erioed; dyma ble dechreuon ni ffurfio'r tîm swyddogion, dod i adnabod ein gilydd a rhannu ein syniadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Fy hoff ran oedd 'torri allan' o'r ystafell, oedd yn rhan o ffurfio tîm, a llwyddom i wneud hyn gyda llai na munud ar ôl.
  2. Llwyddo dod â diwrnodau cofleidio cwn (Paws for Thought) i UMAber a gweld wynebau hapus y myfyrwyr a fynychodd y sesiynau. Ynghyd â hyn, llwyddwyd i godi tua £1,400 ar gyfer Cynllun Achub Alpet Poundies yn y broses, fel ffordd o ddiolch iddynt am eu holl waith caled.
  3. Adeiladu ymgyrch #SanauStefan a gweld cymaint o bobl yn cyfranogi; daeth deigryn i fy llygaid bob tro y buaswn i'n mynd i wylio gêm, a gweld môr o sanau pinc ar draws yr holl faes. Roedd cael Bangor yn rhan o'r ymgyrch ar gyfer Rhyngolgampau Farsiti, a gweld pawb yn Aber a Bangor yn cefnogi'r ymgyrch yn uchafbwynt i flwyddyn lwyddiannus i #SanauStefan!
  4. Eistedd mewn cyfarfod â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda (BIHDd) a rhannu barn a syniadau myfyrwyr ynglyn â gwasanaethau iechyd lleol yn Aberystwyth. Ers hynny, rydyn ni wedi adeiladu perthynas dda â BIHDd, ac mae pethau'n edrych yn fwy positif o ran sut all myfyrwyr helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd lleol yn Aberystwyth.
  5. Archebu tamponau, tyweli glanweithdra a chondomau, sydd nawr ar gael i'n myfyrwyr AM DDIM!

Cyflawniad mwyaf y flwyddyn (neu'r hyn rwyt ti'n falch ohono)?

I mi, y peth mwyaf dwi wedi ei gyflawni yw gweld a chlywed ymatebion cadarnhaol gan fyfyrwyr, bod ein tîm wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau fel myfyrwyr. Gall hyn fod pan fyddant yn gwenu'n hapus wrth roi cwtsh i gi, yn fwd i gyd ac yn cael hwyl yn Superteams, neu'n rhywun yn dweud bod fy nyfyniad yn yr e-bost wythnosol wedi'u hysbrydoli a'u cadw i fynd drwy gyfnod anodd. Sefais ar gyfer y rôl hon oherwydd fy mod i am gyfrannu at effaith gadarnhaol ar ran myfyrwyr Aberystwyth, hyd yn oed os nad oeddwn i ond yn gwneud gwahaniaeth i fywyd un person; hoffwn gredu bod ein tîm ni wedi llwyddo yn hyn o beth eleni. Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef cyfnodau anodd neu salwch yn y brifysgol, a thra bod cryn lawer o ffordd i fynd i wneud ein systemau cymorth yn berffaith, rydyn ni wedi cyflawni llawer, a dwi'n falch o fod wedi cyfrannu at hynny.

Neges hwyl fawr

Diolch i bawb dwi wedi gweithio gyda nhw eleni, neu sydd wedi fy helpu mewn unrhyw ffordd; mae wedi bod yn brofiad llawn hwyl a her, a fydd yn aros gyda fi am byth! Diolch yn arbennig i weddill y Tîm Anhygoel; dwi'n mynd i'ch colli chi'n fawr iawn. Pob lwc i bawb, ble bynnag y byddwch chi, a chofiwch fod yn ddewr ac yn garedig bob amser.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576