Mater mawr misglwyfau.

Mae'n bryd i ni siarad am fisglwyfau o ddifrif. Mae'n destun tabwy mae llawer o bobl yn ofni ei drafod, ond pam? Mae misglwyf yn broses naturiol sy'n digwydd i bobl unwaith y mis, ac mae'n bryd cael sgwrs ddifrifol amdano.

naomiofficerblogwelshwelfarewelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae'n bryd i ni siarad am fisglwyfau o ddifrif. Mae'n destun tabwy mae llawer o bobl yn ofni ei drafod, ond pam? Mae misglwyf yn broses naturiol sy'n digwydd i bobl unwaith y mis, ac mae'n bryd cael sgwrs ddifrifol amdano.

Yn ddiweddar, es i, Jasmine a Lauren i Gynhadledd Menywod UCM Cymru ym Merthyr Tudful, lle buon ni'n lwcus i gael clywed gan Chella Quint, digrifwr o America sy'n treulio ei hamser yn lledaenu negeseuon cadarnhaol ynglyn â misglwyfau, gan ddefnyddio'r hashnod #PeriodPositive. Siaradodd hi am y ffordd mae'r cyfryngau wedi creu darlun negyddol o fisglwyfau a'r ffordd y byddai menywod, yn y gorffennol, yn gwisgo peisiau coch pan fyddai misglwyf arnynt fel na fydden nhw'n distrywio eu peisiau mwy llachar gyda staeniau. Serch hynny, doedd hyn ddim yn eu poeni nhw o gwbl; bydden nhw'n gwisgo'u peisiau coch ac yn parhau â'u bywydau pob dydd. Nid tan y dechreuwyd hysbysebu cynnyrch misglwyf yr oedd menywod yn dechrau teimlo cymaint o gywilydd am eu misglwyf – mae'r cyfryngau yn awgrymu eu bod nhw'n rhywbeth y dylen nhw ei guddio. Dechreuodd fel pwynt gwerthu rhywiaethol i annog menywod i brynu'r cynnyrch; os na fydden nhw, bydden nhw'n codi cywilydd ar eu gwyr. A ninnau bellach yn yr 21ain ganrif, mae cynnyrch misglwyf pobman yn bloeddio'r neges y dylai misglwyfau fod yn gudd ac yn anhysbys; gan gynnig modd “tawel” o lapio fel na fydd modd i neb eich clywed chi'n ei agor a dyluniadau cynnyrch syml i guddio'r ffaith eich bod chi'n defnyddio cynnyrch misglwyf. Does dim angen dweud bod Chella wedi agor fy llygaid i gymaint o effaith sydd gan hysbysebu ar y ffordd rydyn ni'n siarad am fisglwyfau; a dwi ddim yn ei gorddweud hi!

Wel Aber, mae'n bryd rhoi diwedd ar hyn. Er nad ydw i'n dweud y dylen ni gyd brynu peisiau coch (ond mae croeso i chi wneud hynny os hoffech chi), mae angen i ni roi'r gorau i ofni siarad am ein misglwyf. Mae'n mynd i ddigwydd i ni bob mis am amser hir iawn, p'un a ydyn ni'n hapus amdano neu beidio (ymddiheuriadau am ddweud hynny, dwi'n teimlo'n drist hefyd)! Cyn i fy nghyfnod i fel Swyddog Lles yn dod i ben, bydda i'n gweithio ar sbarduno'r ymgyrch #PeriodPositive o gwmpas y campws, fel bod modd i ni ddileu'r stigma sy'n ymwneud â'n cylch misol ac yn teimlo llai o gywilydd pan fydd Byd Natur yn galw. Os hoffech chi gymryd rhan rywsut, hoffwn i glywed gennych! Cewch anfon e-bost ataf i ar undeb.lles@aber.ac.uk neu alw heibio fy swyddfa yn yr Undeb am sgwrs.

Hefyd, mae'n braf gen i gyhoeddi, yn ogystal â'r condomau am ddim rydyn ni'n eu cynnig yn UM Aber, mae gennym ni lwyth o damponau, padiau a liners ar eich cyfer pan fyddwch chi eu hangen! Bydd y cynhyrchion (gan gynnwys y condomau a oedd arfer bod ar gael wrth y dderbynfa) yng nghoridor gwaelod yr Undeb, ger y swyddfeydd lle mae holl staff yr Undeb yn byw (drwy'r drysau yng nghefn yr Underground) a byddan nhw ar gael i chi tra bydd yr adeilad ar agor. Ond gofynnaf i chi fod yn barchus a chymryd dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch, fel bod digon i bawb. Hefyd, rydyn ni'n gobeithio darparu rhagor o gynyrchion cynaliadwy yn y dyfodol, fel cwpanau y gellir eu hailddefnyddio, ond yn sgil y dreth ar gynhyrchion misglwyf, mae'n bosib y bydd hynny'n frwydr anodd, ond cadwch lygad allan!

Diolch i:

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576